Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg
- Cod y Modiwl
- FGM6420
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Tom Knight
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Rhaid i fyfyrwyr fod yn gyfarwydd ag iaith raglennu. - Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PHM6420
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Professor Huw Morgan
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Tasg Cyfathrebu Ysgrifenedig: 1000 Words | 20% |
| Asesiad Semester | Tasg Rifiadol: 4 Awr | 20% |
| Asesiad Semester | Tasg Cyfathrebu Llafar: 1 Awr | 20% |
| Asesiad Semester | Adroddiad ar Ddulliau Rhifiadol: 2000 Words | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Tasg Cyfathrebu Llafar: 1 Awr | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ar Ddulliau Rhifiadol: 2000 Words | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Tasg Rifiadol: 4 Awr | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Tasg Cyfathrebu Ysgrifenedig: 1000 Words | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos meistrolaeth ar dechnegau rhifiadol ar gyfer modelu systemau ffisegol
- Defnyddio technegau uwch ar gyfer cyfrifiadura a dadansoddi gwyddonol
- Cyfansoddi adroddiad ysgrifenedig ar dechnegau cymhwysol a'u canlyniadau
- Cyflwyno syniadau cymhleth trwy drafodaeth ysgrifenedig a llafar
- Gwerthuso cyhoeddiadau cyfnodolion gwyddonol yn feirniadol
Disgrifiad cryno
Mae ymchwil cyfoes yn aml yn gofyn am gymhwyso dulliau rhifiadol i ddatrys problemau mewn ffiseg. Mae hefyd yn gofyn am y gallu i gyfathrebu a chyflwyno syniadau a chanlyniadau yn glir. Mae'r modiwl hwn yn cyfuno cymhwyso technegau rhifiadol a dulliau cyfathrebu i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol.
Cynnwys
- Datrys systemau hafaliadau llinol gan ddefnyddio dadelfeniad LU(P).
- Datrys systemau gwasgarog o hafaliadau llinol gan ddefnyddio dulliau iterus
- Brasamcanu hafaliadau differol rhannol gan ddefnyddio dulliau gwahaniaeth meidraidd
- Datrys problemau gan ddefnyddio dulliau Monte Carlo
- Efelychu systemau mecanyddol ystadegol gan ddefnyddio dulliau metropolis Monte Carlo
- Cyflwyno technegau rhifiadol a chanlyniadau
- Arddulliau ysgrifennu a chyflwyniad llafar
- Dadansoddi papurau cyfnodolion ac adroddiadau
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Trafodaeth, gwerthuso beirniadol a datrys problemau trwy gydol y modiwl |
| Cyfathrebu proffesiynol | Drwy gydol y modiwl |
| Datrys Problemau Creadigol | Drwy gydol y modiwl, yn enwedig o ran cymhwyso technegau rhifiadol i adeiladu modelau ffisegol |
| Gallu digidol | Drwy gydol y modiwl |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Drwy gydol y modiwl |
| Myfyrdod | Yn gynhenid i ddadansoddi, a chymhwyso adborth |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Rhaglennu, dulliau rhifiadol, cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar), dadansoddi beirniadol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
