Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol

Cod y Modiwl
GQ33720
Teitl y Modiwl
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Catrin Wyn Edwards
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Christopher Phillips

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Papur briffio: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Semester Traethawd: 2500 o eiriau 60%
Asesiad Ailsefyll Papur briffio: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 2500 o eiriau 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dadansoddi’n feirniadol ddimensiwn hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol amlddiwylliannedd mewn democratiaethau modern
  2. Dangos dealltwriaeth ddofn o’r materion allweddol a’r heriau o ran polisi mewn cymdeithasau amlddiwylliannol
  3. Dangos dealltwriaeth fanwl o pam a sut y mae polisïau a modelau wedi eu llunio a’u gweithredu
  4. Adolygu’n feirniadol lwyddiannau, cyfyngiadau a methiannau polisïau a modelau gwahanol
  5. Cloriannu’n feirniadol beth fu rôl polisïau a modelau ar draws ystod o astudiaethau achos
  6. Dangos dealltwriaeth fanwl a sustematig o amrywiol draddodiadau a safbwyntiau, yn ogystal â dealltwriaeth ehangach o ‘wahaniaethau’ mewn gwahanol wledydd

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn archwilio dadleuon polisi cyfoes ynghylch rheoli amrywioldeb, hunaniaeth a dinasyddiaeth. Bydd gwahanol ddehongliadau o amlddiwylliannedd yn cael eu hystyried a gwahanol ddulliau o ymdrin ag amrywiaeth yn cael eu dadansoddi - o bersbectif 'pot toddi' yn yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r 20fed ganrif, mabwysiadu'r polisi amlddiwylliannedd yng Nghanada yn ystod y 1960au, yr encil o amlddiwylliannedd a welwyd yn Ewrop ers canol y 1990au a model rhyngddiwylliannol Quebec. Mae'r modiwl hwn yn archwilio dadleuon polisi cyfoes ynghylch rheoli amrywioldeb, hunaniaeth a dinasyddiaeth. Bydd gwahanol ddehongliadau o amlddiwylliannedd yn cael eu hystyried a gwahanol ddulliau o ymdrin ag amrywiaeth yn cael eu dadansoddi - o bersbectif 'pot toddi' yn yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r 20fed ganrif, mabwysiadu'r polisi amlddiwylliannedd yng Nghanada yn ystod y 1960au, yr encil o amlddiwylliannedd a welwyd yn Ewrop ers canol y 1990au a model rhyngddiwylliannol Quebec. Bydd y modiwl yn trafod materion cyfoes megis cysylltiadau hil, rhyddid mynegiant, anghydraddoldebau a gwahaniaethu a bydd yn canolbwyntio'n benodol ar hawliau pobloedd brodorol, grwpiau mewnfudol a lleiafrifoedd cenedlaethol mewn cyd-destunau cymharol.

Cynnwys

Bydd y darlithoedd a'r seminarau yn cyflwyno myfyrwyr i wahanol fodelau o ymdrin ag amrywioldeb gan gynnwys amlddiwylliannedd a rhyngddiwylliannol fel athroniaeth polisi cyhoeddus. Er mwyn dangos ac archwilio'r heriau, cyfyngiadau a phosibiliadau sy'n gysylltiedig â modelau amrywiol (e.e., amlddiwylliannedd, rhyngddiwylliannaeth, 'dallineb lliw’), bydd y modiwl yn canolbwyntio ar sawl gwlad gan gynnwys Canada, yr Almaen, yr Iseldiroedd, a'r Deyrnas Unedig. Bydd yn archwilio modelau a pholisïau ar draws gwahanol astudiaethau achos a bydd yn canolbwyntio'n benodol ar hawliau pobloedd brodorol, grwpiau mewnfudol a lleiafrifoedd cenedlaethol i dynnu sylw at y gwahanol ddulliau a fabwysiadwyd gan ystod o lywodraethau ynghyd â goblygiadau'r polisïau hyn. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar feirniadaethau amlddiwylliannedd a'r ‘encil’ diweddar yn erbyn amlddiwylliannedd mewn byd ôl-9/11.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i ffurfio eu syniadau ar lafar mewn trafodaethau seminar ac yn ysgrifenedig yn eu traethodau, a sut i gyflwyno’u dadleuon yn gyson, yn effeithiol ac yn glir. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd casglu a dadansoddi data ynghyd â chyfathrebu clir. Byddant yn dysgu sut i ddefnyddio a manteisio ar y ffynonellau gwybodaeth niferus sydd ar gael a sut i ysgrifennu a siarad yn glir. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc yn unig a chanolbwyntio ar nodau ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd y gwaith grŵp yn helpu’r myfyrwyr i wella eu sgiliau cyfathrebu. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd baratoi eu traethodau ar brosesydd geiriau a dylid cyflwyno’r gwaith ar ffurf sy’n mynegi syniadau’n effeithiol ac yn defnyddio sgiliau iaith yn dda er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bwriedir i’r modiwl hwn ddatblygu nifer o sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i’r myfyrwyr o safbwynt personol a phroffesiynol. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, gallu i barchu safbwyntiau pobl eraill, datblygu a chyflwyno dadl glir ar lafar ac yn ysgrifenedig, a gwrando ar safbwyntiau a datganiadau pobl eraill, myfyrio arnynt ac ymateb iddynt. Yn ogystal, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio ar wella sgiliau dadansoddi, ymchwilio a chyfathrebu’r myfyrwyr. Byddant yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy a rhinweddau personol drwy ymdrin â materion cyfoes hiliaeth ac amrywioldeb a chydraddoldeb diwylliannol, ieithyddol ac ethnig ac yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r dadleuon ynghylch amlddiwylliannedd cyfoes. Disgwylir iddynt feithrin sgiliau ymchwilio, ysgrifennu a siarad drwy gyflwyno/dadlau, sy’n sgiliau hanfodol yn y gweithle.
Datrys Problemau Bydd gwaith grŵp, gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un o nodau canolog y modiwl. Drwy orfod cyflwyno dau aseiniad ysgrifenedig a pharatoi at drafodaethau seminar bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwilio annibynnol ynghyd â sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau drwy ofyn iddynt fabwysiadu safbwyntiau; dadansoddi a chyflwyno data; datblygu a chyflwyno dadl; ystyried achosion eithafol, tebyg ac annhebyg; rhesymu a chwilio am batrymau.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gwneud ymarferion tîm yn y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau trafod y modiwl hwn, cynhelir trafodaethau mewn grwpiau bach yn y seminarau lle gofynnir i’r myfyrwyr drafod mewn grŵp y materion craidd sy’n gysylltiedig â phwnc trafod y seminar. Mae’r trafodaethau a’r dadleuon seminar hyn yn rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn gyfle i’r myfyrwyr ystyried ac ymdrin â phwnc penodol drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae’r modiwl yn hybu sgiliau hunanreoli. Mae hefyd yn annog y myfyrwyr i geisio cymorth a chefnogaeth gan y cydlynydd a chan eu cyd-fyfyrwyr, ac i ddeall yr adborth a gweithredu yn ei sgil. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain drwy chwilio am ffynonellau a llunio rhestrau darllen. Drwy orfod gwneud cyflwyniadau mewn seminarau a chyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiad cau, bydd y myfyrwyr yn dysgu am yr angen i reoli eu hamser a gwneud yn fawr o’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael iddynt.
Rhifedd Ddim yn berthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn annog y disgyblion i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol a fydd o gymorth iddynt i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl; • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd; • Dangos technegau ymchwil pwnc-benodol. • Cymhwyso amryw o fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes.
Sgiliau ymchwil Bydd yn rhaid wrth sgiliau ymchwilio annibynnol a sgiliau llythrennedd gwybodaeth er mwyn paratoi a chyflwyno’r gwaith cwrs a bydd hyn hefyd yn annog y myfyrwyr i ddod o hyd i adnoddau ymchwil priodol a’u defnyddio, ac ysgrifennu’r canlyniadau ar ffurf dadl. Wrth baratoi at y seminarau bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau prosiect annibynnol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i’r gwaith y mae’r myfyrwyr yn ei gyflwyno’n electronig gael ei baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig. Bydd disgwyl hefyd i’r myfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau a fydd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6