Algebra

Cod y Modiwl
MT10510
Teitl y Modiwl
Algebra
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Gwion Evans
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion

Mathemateg Safon Uwch neu gyfatebol
Cyd-Ofynion
MP10610 neu MT10610
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
MA10510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Gwion Evans

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. 20%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr 80%
Asesiad Ailsefyll Prawf Blackboard: 20%
Arholiad Ailsefyll Arholiad atodol: 2 Awr ysgrifenedig 2 Awr 80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Defnyddio'r nodiant ar gyfer setiau a mapiadau;
  2. Llunio profion gan ddefnyddio'r Egwyddor o Anwythiad Mathemategol;
  3. Defnyddio'r Theorem Binomial ar gyfer esbonydd cyfanrif mewn amryw o sefyllfaoedd;
  4. Darganfod symiau cyfresi rhifyddol a geometrig;
  5. Ymdrin â rhifau cymhlyg a defnyddio Theorem DeMoivre;
  6. Defnyddio'r Algorithm Rhannu ar gyfer polynomialau;
  7. Deillio hafaleddau ar gyfer gwreiddiau a chyfernodau polynomialau.

Disgrifiad cryno

.Mae'r modiwl hwn yn dysgu'r algebra sy'n hanfodol i astudio Mathemateg.

Nod

I gyflwyno myfyrwyr i'r syniadau o algebra trwy astudio rhifau cymhlyg a pholynomialau.

Cynnwys

1. SETIAU A MAPIADAU: Cyflwyniad i systemau rhifau a mapiadau.
2. SYMIAU MEIDRAIDD: Theorem Binomial, cyfresi rhifyddol a geometrig. Egwyddor Anwythiad Mathemategol.
3. RHIFAU CYMHLYG: Dadansoddiad geometrig. Theorem DeMoivre.
4. POLYNOMIALAU: Yr Algorithm Rhannu a Theorem y Gweddill. Ffwythiannau cymesur. Y berthynas rhwng israddau polynomial a'i gyfernodau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd.
Sgiliau pwnc penodol Yn ehangu profiadau'r myfyrwyr mewn pynciau mathemategol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4