Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MT10720
Teitl y Modiwl
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 0 Awr   Atodol  Fel a benderfynir gan y bwrdd arholi. 0 Awr  100%
Asesiad Semester Excel  Aseiniad taenlen 400 o eiriau  15%
Asesiad Semester Cyflwyniad  Cyflwyniad unigol ar bwnc mewn Mathemateg. 10 Munud  15%
Asesiad Semester Bywgraffiad  Ysgifennu bywgraffiad byr o Fathemategydd; hyfforddiant mewn ymchwil heb lên-ladrata. 1000 o eiriau  10%
Asesiad Semester Prawf  Gwerthuso prawf mathemategol yn feirniadol. 400 o eiriau  10%
Asesiad Semester CV  Paratoi CV neu broffil Linked-In ac ysgrifennu llythyr cyflwyniad ar gyfer cais am swydd, gan ymgynghori ag ymgynghorydd gyrfaoedd. 400 o eiriau  15%
Asesiad Semester Python  Aseiniad rhaglennu python 200 o eiriau  20%
Asesiad Semester Grŵp  Cyflwyniadau poster (grŵp) ar yrfaoedd 200 o eiriau  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gweithio’n unigol i ymchwilio a chyflwyno rhyw bwnc mewn Mathemateg.

Defnyddio pecynnau meddalwedd er mwyn creu dogfennau syml fel Curriculum Vitae, cyflwyniad neu boster.

Gwerthuso profion mewn Mathemateg yn feirniadol.

Gweithio mewn grwpiau i ymchwilio a chyflwyno gwybodaeth am yrfaoedd Mathemategol.

Deall sut i ymgeisio am swydd, gan amlygu sgiliau a phrofiadau i gyflogwr posib.

Creu neu addasu taenlen er mwyn gwneud nifer o gyfrifiadau, cynhyrchu crynodebau, delweddu’r data a’r canlyniadau.

Ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadurol er mwyn datrys problemau mathemategol a delweddu graffiau.

Disgrifiad cryno

Ar y modiwl hwn fe fydd myfyriwr yn trafod y sgiliau a’r paratoad sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau gradd mewn Mathemateg yn llwyddiannus. Fe fydd y rhain yn cael eu cyflwyno i bwnc pwysig o fathemateg, fel profion ffurfiol neu ddatrys problemau. Fe fydd myfyrwyr yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad byr ar bwnc mewn Mathemateg.

Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i raglennu cyfrifiadurol trwy ystod o becynnau: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyniadau, taenlenni a rhaglennu ffurfiol yn Python. Byddwn yn defnyddio cysyniadau syml o fathemateg er mwyn arddangos defnydd syml o feddalwedd a’r sgiliau cysylltiedig yn y gweithle.

Bydd y Gwasanaethau Gyrfaoedd yn cynnig rhaglen ymwybyddiaeth gyrfaoedd, lle bydd pob myfyriwr yn paratoi llythyr cyflwyniad ac yn sefydlu Curriculum Vitae arlein. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau er mwyn ymchwilio i’r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion yn eu maes, a’r berthynas rhwng y sgiliau maent yn ei ddatblygu a’r gyrfaoedd hynny. Bydd pob tîm yn creu cyflwyniad poster ar eu canfyddiadau, gan wneud defnydd o’r meddalwedd perthnasol.

Cynnwys

Sgiliau Astudio ar gyfer Mathemategwyr: trafodaeth ar amgylcheddau dysgu a ffyrdd gwahanol o gyflwyno Mathemateg.

Pecynnau meddalwedd prosesu geiriau a chyflwyno (Latex, PowerPoint):
Cyflwyniad, dogfennau syml, fformatio, mynegiadau mathemategol, cyflwyniadau.

Prawf mathemategol: gwerthusiad critigol o ddulliau profi.

Cyflwyniad unigol ar bwnc mewn Mathemateg.

Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, gan gynnwys cyngor ar baratoi llythyr cyflwyniad a
CV, wedi ei redeg gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Cyflwyniad poster (grŵp) ar y berthynas rhwng y sgiliau sydd gan Fathemategwyr a’r gyrfaoedd sydd ar gael iddynt.

Taenlenni: trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin a delweddu set ddata (mawr).

Rhaglennu: cyflwyniad sylfaenol i python ac egwyddorion rhaglennu cyfrifiadurol, gyda pheth delweddu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd y gwaith sy’n arwain tuag at y cyflwyniad grŵp yn cael ei wneud mewn timau.
Cyfathrebu proffesiynol Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau ysgrifenedig a’r CV. Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebi ar lafar yn y cyflwyniadau.
Datrys Problemau Creadigol Datblygir sgiliau datrys problem yn y modiwl wrth ymdrin â phrofion, taenlenni a’r aseiniadau rhaglennu, ac wrth baratoi cyflwyniad ar bwnc mewn Mathemateg.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Mae sgiliau dadansoddol yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd ag ymchwil ar gyfer yr aseiniad bywgraffiad a’r cyflwyniad unigol, ac wrth ymchwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwahanol.
Sgiliau Pwnc-benodol Datblygir sgiliau mathemategol wrth werthuso profion. Bydd cysyniadau a thechnegau rhifiadol/delweddu yn cael eu hystyried mewn cysylltiad â thaenlenni a rhaglennu cyfrifiadurol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4