Gwybodaeth am Fodiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 1 Awr Asesiad atodol Arholiad ysgrifenedig (cydamserol gyda'r arholiad atodol). 1 Awr | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Arholiad 2 Awr | 60% |
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Arholiad 2 Awr | 60% |
| Asesiad Semester | 40 Awr Gwaith cwrs Datrysiadau i wyth taflen enghreifftiol a osodir bob yn ail wythnos. 40 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Defnyddio fectorau, meysydd fector, calcwlws fector a systemau cyfesurynnau gwahanol er mwyn dadansoddi problemau mewn gofod 3-dimensiwn.
Enrhifo integrynnau llinell, arwyneb a cyfaint. Cofio a chymhwyso theoremau Stokes, Green a dargyfeiriad.
Egluro a chyfrifo cyfraddau newid darfudol.
Cyfrifo'r forteisedd o lif llifydd delfrydol.
Penderfynu os yw llif yn addas ar gyfer llifydd anghywasg.
Cymhwyso a datrys yr hafaliadau rheoli llif ar gyfer llifydd delfrydol mewn sefyllfaoedd penodol.
Darganfod y ffwythiant llif a'r potensial cyflymder sy'n disgrifio maes fector penodol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno offer mewn calcwlws fector gaiff eu cymhwyso i ddatblygu'r cysyniadau sylfaenol mewn Hydrodynameg Glasurol, gan gynnig fframwaith fodern i Fecaneg Llifydd.
Nod
I gyflwyno offer mewn dadansoddiad fector a'r cysyniadau sylfaenol o Hydrodynameg Clasurol.
I egluro sut gall modelu mathemategol o fudiant llifydd gynorthwyo gyda'n dealltwriaeth o ffenomenâu penodol o'r byd go iawn gan gynnwys rhai mewn cymwysiadau fel meteoroleg ac aerodynameg.
Cynnwys
2. Calcwlws Fector: graddiant, dargyfeiriad a cwrl o feysydd fector.
3. Integrynnau llinell ac arwyneb, y theorem dargyfeiriad.
4. Cyflymder, gwasgedd, gludedd, dwysedd a'r rhif Reynolds.
5. Systemau cyfeirnodi Euleraidd a Lagrangeaidd; cyflymiad a'r deilliad darfudol.
6. Cinemateg mudiant llifydd: Llinlwybrau, lliliniau, forteisedd.
7. Hafaliadau rheoli sylfaenol mudiant llifydd: Anghywasgedd a hafaliadau Euler.
8. Hafaliadau Bernoulli a chymwysiadau.
9. Strwythurau hydrodynameg syml: Tarddiadau, suddfannau, dwbledi. Llif potensial.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i weithio mewn grwpiau i ddatrys problemau. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno atebion ysgrifenedig clir i ymarferion gosod. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr aseiniadau'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos creadigrwydd wrth ddarganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau |
| Gallu digidol | Anogir myfyrwyr i ddefnyddio'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl a'r cymhwysiadau posib. |
| Myfyrdod | Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu dull eu hunain o ddysgu ac i ddefnyddio'r adborth maent yn ei dderbyn ar eu gwaith er mwyn cefnogi eu dysgu. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Ehangir datguddiad myfyrwyr i bynciau mewn mathemateg, a maes cymhwysiad nad ydynt wedi dod ar ei draws o'r blaen. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
