Datblygu Ymarfer Proffesiynol (Rhan B)

Cod y Modiwl
NY20760
Teitl y Modiwl
Datblygu Ymarfer Proffesiynol (Rhan B)
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester S Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Angharad Jones
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Cyd-Ofynion
NU20120 neu NU20220 neu NU20520 neu NU20620 neu NU20320 neu NU20420
Modiwlau craidd BSc Nursing Adults a Mental Health
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Miss Samantha Adams
Mrs Simone Anthony
Dr Angharad Jones
Mrs Elizabeth Wile
Mrs Amanda Jones
Mrs Ellie Jolley-Dawson
Mrs Jayne Evans
Mr Darren Prince
Mrs Natalie Reardon
Mr Rejimon Abdul Khadir Subaida Beevi
Mr Asa Galeozzie
Miss Carys-Ann Hornsey
Dr Ifat Shah
Mrs Kayrene James
Mr Simon Clothier
Mr Matthew Townsend

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Continuous clinical assessment and Second In Point Assessmen: 800 Awr Asesiad clinigol parhaus (sy’n adlewyrchu’r maes ymarfer a ddewisir gan y myfyriwr) 100%
Asesiad Ailsefyll Continuous clinical assessment and Second In Point Assessmen: 800 Awr Rhaid i fyfyrwyr basio pob elfen a nodir yn y Ddogfen Asesu Ymarfer ar gyfer Rhan 2 er mwyn symud ymlaen i Ran 3.Asesiad clinigol parhaus (sy’n adlewyrchu’r maes ymarfer a ddewisir gan y myfyriwr) 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. adlewyrchu’r priodoleddau sy’n gysylltiedig â bod yn weithiwr proffesiynol atebol
  2. cymryd rhan mewn strategaethau penodol i hybu iechyd
  3. asesu anghenion sylfaenol defnyddwyr gwasanaethau a chynllunio gofal nyrsio cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  4. darparu gofal nyrsio diogel, tosturiol ac effeithiol gan gloriannu effeithiolrwydd yn erbyn canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau unigol
  5. arwain a rheoli eu gofal nyrsio eu hunain, gan weithio'n effeithiol gyda thimau i gydlynu gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau unigol
  6. disgrifio’r strategaethau cyfredol a ddefnyddir i fonitro diogelwch ac ansawdd gofal
  7. Archwilio a dadansoddi'r budd o addysg ryngbroffesiynol o fewn gofal iechyd

Disgrifiad cryno

23. DISGRIFIAD CRYNO:
Mae Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC 2018a), Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y Deyrnas Unedig yn nodi bod angen i nyrsys cofrestredig fod â’r hyder a’r gallu i feddwl yn feirniadol, cymhwyso gwybodaeth a sgiliau, a darparu gofal nyrsio uniongyrchol arbenigol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ym mhob lleoliad gofal iechyd.
Rhaid i nyrsys cofrestredig allu diwallu anghenion gofal holistaidd, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, pobl maent yn dod ar eu traws wrth ymarfer, a all fod ar unrhyw gam mewn bywyd ac a all fod ag amrywiaeth o heriau iechyd meddyliol, corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol.

Hefyd, rhaid i nyrsys cofrestredig “allu dangos mwy o wybodaeth a’r sgiliau ychwanegol, mwy datblygedig sydd eu hangen er mwyn diwallu anghenion gofal penodol yn eu dewis feysydd ymarfer nyrsio.” (NMC 2018a, t.6).

Mae Strategaeth Asesu Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer rhaglenni Nyrsio cyn-cofrestru, sy’n arwain at fynediad i’r gofrestr broffesiynol, yn nodi’r broses ar gyfer mesur perfformiad myfyrwyr yn erbyn Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC 2018a).
Mae’r safonau hyfedredd yn y ddogfen hon yn nodi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae’n rhaid i nyrsys cofrestredig eu dangos wrth ofalu am bobl o bob oed ac ym mhob lleoliad gofal. Maent yn adlewyrchu’r hyn y gall y cyhoedd ddisgwyl i nyrsys ei wybod a gallu ei wneud er mwyn darparu gofal nyrsio diogel, trugarog ac effeithiol.

Cynnwys

​​​Mae cynnwys y modiwl yn adlewyrchu safonau rheoliadol yr NMC, sy'n nodi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar nyrsys cofrestredig medrus, ac felly mae'r modiwl yn ymdrin â'r elfennau a nodir yn Rhannau 1, 2 a 3 o Safonau Gwireddu Proffesiynoldeb yr NMC yn ogystal â'r Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig.

Mapio deilliannau hyfedredd nyrsys y dyfodol a sgiliau a gweithdrefnau atodol. Mae Safonau hyfedredd ar gyfer nyrsys cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) yn nodi deilliannau hyfedredd, sgiliau cyfathrebu a rheoli cydberthnasau a’r gweithdrefnau nyrsio y mae’n rhaid i nyrs sy’n astudio eu dangos er mwyn cael ymuno â chofrestr broffesiynol yr NMC fel Nyrs Gofrestredig Raddedig.

Mae’r deilliannau hyfedredd sydd yn y Ddogfen Asesu Ymarfer hon yn nodi’r wybodaeth, sgiliau, ymagweddau ac ymddygiadau y mae’n rhaid i’r myfyriwr allu eu dangos erbyn diwedd y rhaglen. Maent wedi’u trefnu gyda chyfeiriad at blatfformau ac atodiadau hyfedredd yr NMC (NMC 2018):

1. Bod yn weithiwr proffesiynol atebol
2. Hybu iechyd ac atal salwch
3. Asesu anghenion a chynllunio gofal
4. Darparu a gwerthuso gofal
5. Arwain a rheoli gofal nyrsio a gweithio mewn timau
6. Gwella diogelwch ac ansawdd gofal
7. Cydlynu gofal

Atodiad A: Sgiliau cyfathrebu a rheoli cydberthnasau
Atodiad B: Gweithdrefnau nyrsio

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch iii. 4. Hyblygrwydd a chydnerthedd: Bydd gofyn i fyfyrwyr ddangos y wybodaeth y maent wedi’i dysgu, gan barhau i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau mewn amgylcheddau amser real. Gyda chymorth mentora a phrofiad uniongyrchol, disgwylir i fyfyrwyr adeiladu ar eu gwybodaeth a deall ymhellach yr angen i fod yn hyblyg, yn greadigol ac yn ddyfeisgar yn eu harfer bob dydd.Yn ogystal, gall y maes clinigol fod yn heriol, ac mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn profi sefyllfaoedd gofal iechyd anodd a a
Cydlynu ag erail Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y modiwlau blaenorol, trwy ei chymhwyso’n ymarferol mewn amgylcheddau amser real. Bydd y myfyrwyr yn adeiladu ar eu gwybodaeth a’u profiadau blaenorol gan barchu’r swyddogaethau a'r gymysgedd o sgiliau sydd eu hangen mewn timau clinigol i ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y claf. Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach y sgiliau ymarferol a chydgysylltiol sydd eu hangen i weithio mewn timau amlddisgyblaethol.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y myfyriwr o gyfathrebu proffesiynol trwy’r profiad a geir wrth gymryd rhan yn eu lleoliad ymarfer. Cynorthwyir myfyrwyr ymhellach i ddatblygu eu medrau cyfathrebu proffesiynol drwy roi a derbyn gwybodaeth wrth drosglwyddo gwybodaeth i’r sifft nesaf, ysgrifennu yng nghofnodion a siartiau clinigol cleifion, cyflwyno gwybodaeth wrth fynd o amgylch wardiau, cyfathrebu â chleifion, teuluoedd ac aelodau tîm amlddisgyblaethol.
Datrys Problemau Creadigol Yn ystod y modiwl hwn, bydd myfyrwyr unwaith eto yn cael profiad o ymarfer clinigol, a bydd gofyn iddynt gyfrannu at y gwaith o ddarparu gofal ymarferol i gleifion, dan oruchwyliaeth uniongyrchol cydweithwyr clinigol. Bydd angen i fyfyrwyr ddangos y wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn 1 ac mewn modiwlau blaenorol, gan barhau i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau mewn amgylcheddau amser real. Gyda chymorth mentora a phrofiad ymarferol, disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth
Gallu digidol Ar y modiwl hwn bydd angen i’r myfyrwyr barhau i ddefnyddio/dysgu sut i:• ddefnyddio blackboard• lanlwytho cofnodion i'w Dogfen Asesu Proffesiynol • cyflwyno gwaith yn electronig• defnyddio llwyfannau electronig a ddefnyddir yn yr amgylchedd clinigol
Meddwl beirniadol a dadansoddol Drwy gael profiad ‘amser real’ o ofal clinigol, bydd myfyrwyr yn cael gwell gwerthfawrogiad o'r angen i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddol. Bydd y modiwl lleoliad ymarferol hwn yn cynorthwyo myfyrwyr ymhellach i adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd a datblygu ymhellach drwy arsylwi sut y gwneir penderfyniadau clinigol ar sail symptomau, sut y gellir cysylltu symptomau â data clinigol eraill a sut y gall archwiliadau ac arsylwadau helpu wrth benderfynu ar opsiynau triniaeth a darpariae
Myfyrdod Yn ystod y modiwl ymarferol hwn, bydd myfyrwyr yn cael profiad o 'fyfyrio wrth weithio', a fydd yn gyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau ymarferol drwy brofi a chymryd rhan mewn gwaith clinigol. Trwy ystyried eu profiadau yn y gorffennol, bydd sgiliau’r myfyrwyr yn datblygu, a byddant yn dechrau gwerthfawrogi’r rhan y mae myfyrio yn ei chwarae yn eu taith ddysgu. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau myfyrio drwy gwblhau gwaith myfyrgar yn seiliedig ar addysg ryngbroffesiynol o fewn gofal iechy
Sgiliau Pwnc-benodol ix. 5. Sgiliau pwnc-benodol: Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach yn y meysydd canlynol:• darparu gofal nyrsio tosturiol • ymarfer nyrsio proffesiynol mewn perthynas â darparu gofal yn ymarferol - sgiliau clinigol- sgiliau hanfodol/sylfaenol (bwydo/golchi/helpu cleifion i fynd i’r toiled)- asesu- cynllunio gofal- cloriannu gofal- archwiliadau a darparu triniaethau- cyfathrebu• darparu gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn• ymarfer diogel
Synnwyr byd go iawn Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y modiwlau blaenorol, trwy ei chymhwyso’n ymarferol mewn amgylcheddau amser real. Bydd myfyrwyr yn gallu ymarfer eu sgiliau clinigol a chymhwyso eu gwybodaeth i sefyllfaoedd clinigol dan oruchwyliaeth eu goruchwyliwr ymarfer. Bydd y lleoliad ymarfer hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i gymhlethdodau ymarfer clinigol, a fydd yn darparu sylfaen iddynt ddatblygu ymhellach yn ystod 3edd flwyddyn y rhaglen.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5