Cydweithio Ensemble
- Cod y Modiwl
- TC10820
- Teitl y Modiwl
- Cydweithio Ensemble
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Gareth Evans
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Gareth Evans
- Elin Morse
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cynhyrchiad Ymarferol: 0.5 Awr Ensemble | 70% |
| Asesiad Semester | Portffolio o Ddeunydd Cyd-destunol: (Ysgrifenedig neu fideo) 1000 Words | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Cynhyrchiad Ymarferol: Unigol | 70% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio o Ddeunydd Cyd-destunol: (Ysgrifenedig neu fideo) 1000 Words | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos gallu i ddeall a chymhwyso gwahanol elfennau cynhyrchiad ensemble.
- Arddangos gallu i gydnabod a dadansoddi cyfraniad unigol o fewn gwaith ensemble.
- Arddangos gallu i gloriannu, dadansoddi, a gwerthuso proses greadigol estynedig.
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr i gydweithio fel grŵp ensemble cyfansawdd, gan fanteisio ar y sgiliau ymarferol o ran perfformio, llwyfannu, ffilmio, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu y byddant wedi’u datblygu yn ystod Semester 1.
Er mwyn gwneud hyn, gofynnir i’r myfyrwyr ddyfeisio a chreu cynhyrchiad ymarferol o’u dewis a’u dyfais eu hunain, gan fynd trwy’r holl gamau angenrheidiol o greu neu gyfaddasu sgript neu senario, trefnu’r rolau a’r swyddi cyflwyno a chynhyrchu, creu amserlen ar gyfer llunio a chwblhau’r gwaith a’i gyflwyno gerbron cynulleidfa fyw (os yn briodol a phosibl).
Fe fydd y modiwl hefyd yn gofyn i’r myfyrwyr i adlewyrchu ar y broses o gydweithio creadigol trwy lunio portffolio o ddeunyddiau creadigol a chyd-destunol naill ai trwy ddulliau ysgrifenedig neu ar fideo.
Cynnwys
Fe fydd y cynnwys, y ffurf mynegiant, a’r berthynas rhwng y deunydd a gaiff ei gyflwyno’n fyw a'r hyn a gaiff ei recordio o flaen llaw yn wahanol o flwyddyn i flwyddyn. O ganlyniad, fe fydd y sesiynau yn cael eu haddasu i gwrdd ag anghenion a nodweddion y prosiect ymarferol wrth iddo ddatblygu. Fe grëir amserlen ddysgu amodol ar gyfer y prosiect cyn gynted ag y medrir a’i addasu ar y cyd gyda’r myfyrwyr wrth fynd ymlaen.
Yn gyffredinol, fe fydd y meysydd a gyflwynir yn y dosbarthiadau ymarferol yn cynnwys y canlynol :
1. Dyfeisio
2. Cydweithio Ensemble
3. Rolau arbenigol o fewn yr Ensemble
4. Datblygu llinell stori
5. Trefnu’r gwaith sgriptio
6. Ymchwil a ffynonellau cyd-destunol
7. Creu adeiladwaith a chynllun ymarfer
8. Cyfarwyddo
9. Ôl-gynhyrchu
10. Marchnata a chyhoeddusrwydd
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Deall cysyniad dynameg grŵp; Cyfrannu at sefydlu nodau’r grŵp; Cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grŵp; Chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; Ymarfer sgiliau trafod a pherswadio; Gwerthuso gweithgareddau grŵp a’ch cyfraniad eich hun. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol; Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac i gynulleidfaoedd gwahanol; Siarad mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol (gan gynnwys cyflwyno a thrafod); Gwrando’n effeithiol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Dynodi problemau; Dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl; Datblygu dulliau meddwl creadigol wrth ddatrys problemau; Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posibl; Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Deall amrywiol ddulliau ymchwil; Cynllunio a chynnal ymchwil; Llunio adroddiadau sy’n briodol yn academaidd; Gwerthuso dulliau, cynllunio a gweithdrefnau ymchwil. |
| Myfyrdod | Dangos ymwybyddiaeth o’ch arddulliau dysgu eich hun, eich hoffterau ac anghenion personol a rhwystrau i ddysgu; Dyfeisio a chymhwyso strategaethau dysgu a hunan-reoli realistig; Dyfeisio cynllun gweithredu personol i gynnwys nodau tymor byr a thymor hir; Adolygu a monitro cynnydd, gan ddiwygio’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella’r perfformiad cyffredinol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk
