Gwybodaeth am Fodiwlau
Module Identifier
TC12240
Module Title
Creu Ffilmiau Byrion 2
Academic Year
2026/2027
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Course Delivery
Assessment
| Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Dyddlyfr 2000 o eiriau | 30% |
| Semester Assessment | Prosiect Ffilm 1/Film Project 1 (2-3 munud/minutes) | 30% |
| Semester Assessment | Prosiect Ffilm 2/Film Project 2 (4-5 munud/ minutes) | 40% |
| Supplementary Assessment | Prosiect Ffilm 1/Film Project 1 (2-3 munud/minutes) | 30% |
| Supplementary Assessment | Prosiect Ffilm 2/Film Project 2 (4-5 munud/ minutes) | 40% |
| Supplementary Assessment | Dyddlyfr 2000 o eiriau | 30% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Dangos ymwybyddiaeth o wahanol gamau cynhyrchu cyfryngau o'r syniad i'r gwireddu, gan gynnwys gwaith camera a golygu.
Llwytho a rhannu cynhyrchiadau.
Gweithio'n effeithiol fel rhan o grŵp cynhyrchu.
Dangos dealltwriaeth fanylach o rolau cynhyrchu penodol.
Dangos gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith fel unigolyn o fewn tîm cynhyrchu.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cynhyrchu cyfryngau gan gynnwys ysgrifennu, ymchwilio, ffilmio a golygu ffilmiau byrion ar draws gwahanol genres ac ymgorffori nifer o arddulliau gwahanol. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau ffilmio mewn gwahanol rolau cynhyrchu.
Yn ogystal, bydd materion cydgyfeirio cyfryngau yn cael eu trafod trwy rannu a thrafod y ffilmiau wythnosol a chadw dyddlyfr a fydd yn caniatáu myfyrio beirniadol a damcaniaethol ar gynhyrchu cyfryngau.
Yn ogystal, bydd materion cydgyfeirio cyfryngau yn cael eu trafod trwy rannu a thrafod y ffilmiau wythnosol a chadw dyddlyfr a fydd yn caniatáu myfyrio beirniadol a damcaniaethol ar gynhyrchu cyfryngau.
Content
O fewn y modiwl ceir gweithdai ar ysgrifennu; gwaith camera; golygu; arddulliau ffilm gwahanol a chydweithio fel rhan o dîm cynhyrchu.
Module Skills
| Skills Type | Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Mi fydd angen sgiliau rhifedd i ymgymryd â'r gwaith golygu. |
| Communication | Bydd sgiliau cyfathrebu effeithiol - llafar, ysgrifenedig a gweledol - yn cael eu datblygu drwy gydol y modiwl. |
| Improving own Learning and Performance | Darperir adborth ffurfiol drwy gydol y modiwl a fydd yn helpu myfyrwyr i wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain. |
| Information Technology | Fel rhan o'r modiwl bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio'r we fel rhan o'r broses ddysgu ac ymchwilio. |
| Personal Development and Career planning | Bydd y sgiliau a geir o'r modiwl hwn yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr. |
| Problem solving | Bydd tasgau’n cael eu gosod i grwpiau cynhyrchu fel rhan o’r modiwl a bydd gofyn iddynt ddatrys problemau/materion sy’n ymwneud â’r rhain. |
| Research skills | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau penodol i baratoi ar gyfer y tasgau wythnosol sy'n ymwneud ag amrywiol arddulliau/ffurfiau. |
| Subject Specific Skills | Bydd sgiliau cynhyrchu cyfryngau mewn amgylchedd cyfryngau cydgyfeiriol yn cael eu datblygu drwy gydol y modiwl. |
| Team work | Bydd gofyn i grwpiau cynhyrchu weithio'n effeithiol fel tîm i gyflwyno cynnwys cyfryngau erbyn terfynau amser penodol. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
