Gwybodaeth am Fodiwlau

Module Identifier
TC33740
Module Title
Cynhyrchu Ffilm Ddogfen
Academic Year
2026/2027
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Portffolio Cynhyrchu / Creative Portfolio  3000 o eiriau  25%
Semester Assessment Portffolio Datblygu/Development Portfolio  2000 o eiriau  25%
Semester Assessment Ffilm Olaf / Final Film  15 Munud  50%
Supplementary Assessment Portffolio Datblygu/Development Portfolio  2000 o eiriau  25%
Supplementary Assessment Ffilm Olaf / Final Film  15 Munud  50%
Supplementary Assessment Portffolio Cynhyrchu / Creative Portfolio  3000 o eiriau  25%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Dangos dealltwriaeth feirniadol o'r prosesau cynhyrchu allweddol wrth wneud ffilmiau dogfen;

Defnyddio amrywiaeth o dechnegau ymchwil er mwyn creu, datblygu a chyflwyno syniad am ffilm;

Cymhwysedd technegol amlwg, barn esthetig a gwerthfawrogiad o gyd-ddibyniaeth rolau cynhyrchu allweddol;

Cydnabod dimensiynau moesegol ymarfer cyfryngau proffesiynol;

Myfyrio'n feirniadol ar y broses greadigol a chynhyrchu gwaith sy'n cael ei lywio gan, ac wedi'i gyd-destunoli o fewn, materion a dadleuon damcaniaethol perthnasol.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr parhau i weithio gydag offer ffilmio a gyflwynwyd yn Rhan 1 a’i annog i weithio yn fwy annibynnol wrth greu ffilm ddogfen fel rhan o grŵp neu fel unigolyn. Gall y modiwl fod o fudd i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ffilmiau dogfen ac sydd eisoes wedi astudio modiwlau yn y maes hwnnw.
Mae'r modiwl wedi'i drefnu o amgylch cyfres o dasgau wrth anelu at greu'r brif ffilm ar ddiwedd Semester 2. Mi fydd y tasgau hyn yn cynnwys gweithgareddau fel: ymchwil ymarferol; ymarferion mewn adrodd straeon gweledol; cyflwyniadau, trafodaethau a gwerthusiadau unigol a grŵp; ymarferion camera, sain a golygu. Mae'r semester cyntaf yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu prosiectau, mae'r ail yn canolbwyntio ar wireddu'r brif ffilm.

Aims

Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r materion cysyniadol, esthetig, moeseg a thechnegol sy’n codi wrth greu ffilm ddogfen. Rhoddir pwyslais ar y broses greadigol, yn hytrach na'r cynnyrch; anogir myfyrwyr i fyfyrio’n feirniadol fel grŵp ac unigolyn wrth wireddu’r ffilm olaf.

Content

Gan fod y modiwl yn cael ei yrru gan y prif brosiect cyflwynir y pynciau canlynol wrth anelu at y nod hwnnw:


1. Dulliau o ddewis pwnc, thema ac arddull
2. Methodoleg ymchwil
3. Archifau: dulliau ymchwil, hawliau a materion technegol
4. Traddodiadau newyddiadurol, arsylwu a naratif
5. Technegau adrodd straeon gweledol
6. Ysgrifennu ac adolygu triniaeth, cyflwyno syniadau
7. Cynhyrchu: comisiynu ac amserlennu
8. Cynllunio a threfnu sesiwn ffilmio
9. Dulliau “recce”, ffeindio lleoliad a chyfweld
10. Materion moeseg
11. Technegau recordio camera, sain a golygu
12. Technegau cyfarwyddo

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Mae gwaith camera a golygu angen gallu rhifedd
Communication Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig drwy ymarferion, seminarau, cyflwyniadau ac adborth ar waith ysgrifenedig. Mae rhywfaint o asesiad o'r sgil hon o fewn y ffilm olaf a'r portffolio creadigol a datblygu.
Improving own Learning and Performance Mae gwneud ffilmiau dogfen yn broses barhaus o hunanasesu ac mae'r prosiect terfynol yn cynnwys hyn.
Information Technology Disgwylir cymhwysedd a chyfarwyddyd â thechnoleg gwybodaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnod ymchwil.
Personal Development and Career planning Mae'r modiwl hwn o werth nid yn unig i'r rhai sydd â nod gyrfa pendant yn y diwydiannau cyfryngau ond mae'n cynnig cyfleoedd i bob myfyriwr i ddatblygu'n bersonol. Gall darlithwyr gwadd o'r diwydiant hefyd ddarparu cyngor gyrfa penodol.
Problem solving Mae gwneud ffilmiau yn broses barhaus o ddatrys problemau. Caiff myfyrwyr eu profi ar hyn yn unigol ac fel rhan o dîm.
Research skills Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil fel rhan o baratoi a datblygu'r prosiect terfynol.
Subject Specific Skills Gweler Subject Benchmark Statement for Communication, Media, Film and Cultural Studies (2008)
Team work Er nad yw'n cael ei asesu'n uniongyrchol, mae'r rhan fwyaf o ffurfiau cynhyrchu cyfryngau yn cynnwys gradd uchel o waith tîm.

Notes

This module is at CQFW Level 6