Gwybodaeth am Fodiwlau

Cod y Modiwl
TC35520
Teitl y Modiwl
Prosiect Cynhyrchu Ensemble
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Cysyniadol o Brosiect Ensemble  15 Munud  70%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Prosiect Unigol  5 Munud  30%
Asesiad Semester Perfformiad Grŵp  (25-30 munud)  70%
Asesiad Semester Cyflwyniad Prosiect Grŵp  10 Munud  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Adnabod a mynegi methodolegau ymarfer priodol, a mynegi’n eglur sgiliau cyfansoddi priodol sy'n deillio o ymarfer ensemble cyfoes.

Creu perfformiad byw sy'n mynegi ymwybyddiaeth a'r gallu i negodi anghenion ffurf dramatwrgiaethol penodol, y defnydd o adnoddau, y berthynas rhwng perfformiwr â chynulleidfa a'r gallu i gydweithio

Arddangos gallu esthetig gynyddol soffistigedig wrth greu perfformiad ensemble, a'i fynegi trwy ymateb yn ystyrlon i adborth beirniadol.

Mynegi arloesedd a dychymyg creadigol yn y strategaethau cyfansoddi a ddefnyddir.

Arddangos gallu i ddadansoddi prosesau gweithio cydweithredol a chyfansoddol wrth greu perfformiad, a'u gosod o fewn cyd-destun ehangach ymarfer theatr a pherfformio cyfoes.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr lunio, datblygu, ymarfer, cynhyrchu a chyflwyno eu prosiect perfformio eu hunain mewn grŵp gan ymateb i friff penodol. Bydd y modiwl yn cael ei gynnal yn bennaf trwy weithdai hunan-arweiniol a fydd yn arwain at ddatblygiad perfformiad byw a all gael ei berfformio mewn stiwdio neu mewn lleoliad safle-benodol. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan ddarlith/dangosiadau dan arweiniad staff yn ystod tair wythnos gyntaf y modiwl, gan ganolbwyntio ar astudiaethau achos o ymarfer ensemble ym maes theatr a pherfformio cyfoes. Bydd hyn yn creu sylfaen ar gyfer y gwaith ymarferol dilynol. Trwy gydol y modiwl, bydd staff yn arwain gweithdy un awr wythnosol, ble bydd myfyrwyr yn cyflwyno ac yn trafod gwaith a ddatblygwyd yn ystod y sesiynau ymarferol hunan-arweiniol.

Disgwylir i fyfyrwyr weithio ar y cyd i ddatblygu cyflwyniad cysyniadol ar gyfer y prosiect ensemble (i'w gyflwyno yn wythnos pedwar) ac wedi hynny tuag at berfformiad byw 25 – 30 munud ar ddiwedd y semester i'w gyflwyno yn wythnos olaf ond un y semester.

Cynnwys

Darlith: 3 x 1 awr
Gweithdiau: 8 x 1 awr
Ymarferion Hunan-Arweiniol: 18 x 2 awr

Ran amlaf, bydd y broses o ddatblygu darn perfformio cydweithredol yn cynnwys yr elfennau canlynol:

- adnabod modelau o greu theatr ac o arferion perfformio cyfoes er mwyn efelychu a datblygu dulliau o ddyfeisio a chreu (e.e. Goat Island; Lone Twin; Frantic Assembly, ac ati).
- ymchwilio i wahanol fodelau dramatig a'u cymhwyso yn y gwaith
- sgorio neu sgriptio priodol
- cynllunio a gweithredu proses ymarferion a hyfforddiant priodol
- cynllunio a gweithredu elfennau senograffig a thechnolegol
- archwilio cyfres o ddewisiadau ynghylch ffurfio grŵp cydweithredol
- negodi rolau o fewn y grŵp, mannau cychwyn ar gyfer y gwaith, dewisiadau esthetig a methodolegau gwneud theatr gydweithredol
- rheoli cyllideb, amser ac adnoddau technegol
- nodi a gwerthuso'r berthynas rhwng y gynulleidfa â'r perfformiwr, a chreu llwyfaniad priodol ar gyfer y digwyddiad byw

Drwy gydol y broses, anogir myfyrwyr i gymhwyso eu hymarfer creadigol a hunanfeirniadol ei hunain er mwyn gwireddu'r digwyddiad perfformiadol a'i gyd-destunoli ym meysydd theatr a pherfformio cyfoes.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Gallu i gydweithio ag eraill; negodi prosesau cydweithio; cydweithio ag eraill er mwyn cyflwyno cyfanwaith gorffenedig.
Datrys Problemau Creadigol Datblygu gwaith ar y cyd ag eraill yn annibynnol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Gorfod datblygu gwaith drwy broses hunan-arweiniol ac ymateb i adborth wythnosol.
Sgiliau Pwnc-benodol Gallu i greu, datblygu, a pherfformio gwaith perfformio gorffenedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6