Ymgartrefu yn dy Adran

Mae eich Adran Academaidd methu aros i'ch croesawu ym mis Medi.
Darganfyddwch eich adran(nau) islaw (wedi eu rhestru yn y wyddor). Mae eich adran wedi amlinellu gwybodaeth ar gyfer yr Wythnos Groeso am ble i fynd ar gyfer eich cyfarfod cyntaf, rhai o'r gweithgareddau a'r digwyddiadau y byddwch yn cymryd rhan ynddynt, a gynhelir i'ch helpu i'w hadnabod, gwneud ffrindiau a addasu i fywyd fel rhan o'ch adran newydd.

Addysg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Ysgol Addysg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn P5 a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r adran ddydd Llun, 22 Medi a bydd yn cynnwys cofrestru a sgyrsiau croesawu. Bydd manylion llawn, gan gynnwys amseroedd a lleoliadau, yn cael eu rhannu’n nes at y dyddiad. Mae'r Wythnos Gynefino yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu i ymgartrefu, gan gynnwys Bwffe Croeso a Sesiwn Gwybodaeth Astudio, teithiau tywys o’r llyfrgell, a thaith gerdded o amgylch Aberystwyth gyda staff yr adran a chyd-fyfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn i gael cipolwg ar fywyd ac astudio yn Aberystwyth.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Astudiaethau Gwybodaeth
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn P5 a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd staff yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn croesawu'r holl fyfyrwyr newydd ar Ddydd Mercher, 24ain o Fedi yn ystafell HO-A14 (o 11.30yb). Dyma gyfle i gwrdd â phawb sy'n dechrau ar eich cwrs mewn Treftadaeth Ddiwylliannol yn ogystal ag eraill sy'n cychwyn ar raddau Meistr a PhD.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.

Busnes
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Ysgol Fusnes Aberystwyth ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Fel Myfyriwr Israddedig bydd eich cyfarfod cyntaf gyda’r Ysgol ar ddydd Llun, 22 Medi am 11am yn narlithfa HO -C22, sydd yn adeilad Hugh Owen. Byddwch yn cael eich gyflwyno i fyfyrwyr eraill sy'n astudio eich gradd, a'r staff a fydd yn eich dysgu. Hefyd, yn ystod eich wythnos gyntaf, byddwn yn cynnal rhaglen o weithgareddau I’ch helpu i ymgartrefu ac i alluogi chi i ymgyfarwyddo â bywyd prifysgol. Rydym wedi trefnu sgyrsiau croeso Adrannol a chynllun gradd o ddydd Llun, 22 Medi ar gyfer Myfyrwyr Uwchraddedig.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Canolfan Addysg Gofal Iechyd
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Addysg Gofal Iechyd ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yma.
Rydym yn falch iawn o'ch croesawu i'r Adran Addysg Gofal Iechyd ar gyfer eich diwrnod cyntaf ddydd Llun, 1 Medi am 10am. Bydd eich sesiwn gynefino yn Adeilad Gwendolen Rees, yn narlithfa GR1.31. Bydd arwyddion yn cael eu harddangos i ddangos y ffordd, felly peidiwch â phoeni. Rydym yn annog pob myfyriwr yn gryf i fynychu'r holl weithgareddau cynefino academaidd sy'n digwydd yn ystod yr Wythnos Groeso. Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am strwythur y cwrs a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.

Celf
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Ysgol Gelf ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Edward Davies a gallwch ddod o hyd i ni yma yn y dref.
Er mwyn eich helpu i ymgartrefu, cwrdd â staff addysgu, a chysylltu â chyd-fyfyrwyr, rydym wedi cynllunio cyfres o weithgareddau croeso yn dechrau ar ddydd Llun, 22 Medi yn yr Ysgol Gelf. Yn y prynhawn, byddwch yn cwrdd â’ch tiwtor personol, darlithwyr pwnc, a myfyrwyr presennol, ac yna sesiwn gyflwyniad anffurfiol gyda'r holl staff. Ac ie - bydd pitsa!
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Cyfraith a Throseddeg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd yr adran yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, gan gynnwys sgwrs a chinio croeso, cwis tafarn a thaith gerdded ar hyd y prom i 'gicio'r bar' (traddodiad yn Aberystwyth). Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd yn rhan o'ch adran.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Cyfrifiadureg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Cyfrifiadureg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Llandinam a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Byddwn yn cynnal nifer o weithgareddau ymgartrefu yn ystod yr Wythnos Groeso. Bydd sesiwn gyflwyniadol i'ch helpu ymgyfarwyddo â'n cyfrifiaduron a'r ffordd y mae ein systemau TG wedi'u sefydlu a'ch arwain at y ffordd rydym yn addysgu rhaglennu yn y flwyddyn gyntaf. Byddwch chi hefyd yn dod i adnabod eich tiwtor personol, darlithydd yn ein hadran, a fydd yna i'ch cefnogi yn ystod eich amser yn y Brifysgol. Bydd hyn yn eich roi ar ben ffordd, ac yn gyfle gwych i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Parry Williams a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Yma yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ry’n ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i gymuned addysgol arloesol sydd wedi bod yn darparu addysg o’r radd flaenaf ers 150 o flynyddoedd. Heddiw fel erioed, mae’r Adran yn arwain y sector ac yn cyfrannu’n llawn at fywyd diwylliannol y genedl. Mae’n wych o beth y byddi eleni’n dod yn rhan o’r gymuned honno.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.
Digwyddiadau Croeso Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Llandinam a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Mae gennym nifer o weithgareddau wedi'u cynllunio dros yr wythnosau cyntaf a fydd yn eich helpu i ddod i adnabod yr Adran, y staff a'ch gilydd. Bydd hyn yn cynnwys cwrdd â'ch Tiwtor Personol a digwyddiadau cymdeithasol lle gallwch gwrdd â myfyrwyr eraill ar eich cwrs. Byddwn hefyd yn darparu gweithgareddau maes wedi eu harwain gan staff I chi ddod i adnabod yr ardal hefyd.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.
Digwyddiadau Creoso yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Ffiseg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Ffiseg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad y Gwyddorau Ffisegol a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r Adran Ffiseg ddydd Llun 22 Medi a’ch croesawu i’r Adran. Bydd yr Adran yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau newydd a theimlo'n rhan o'r adran yn ystod eich wythnos gyntaf yn y brifysgol. Ddydd Llun byddwch chi’n cwrdd â'ch tiwtor personol, cyswllt allweddol a fydd yn eich cefnogi drwy gydol dy astudiaethau.
Yn ystod yr wythnos, cewch gyfle i ddod i adnabod y staff a fydd yn eich dysgu ac ymgyfarwyddo â'r labordai a'r mannau addysgu. Yn ogystal â chyflwyniadau gan yr adran, bydd sgyrsiau gan fyfyrwyr, cymdeithasau, a gwasanaethau prifysgol presennol sydd yma i'ch cefnogi yn eich astudiaethau.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Ar ddydd Llun, 22ain o Fedi, byddwn yn cynnal brecwast croeso i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Yno, bydd cyfarfod croeso ar gyfer pob myfyriwr newydd am 12yp, hefyd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae’r ddau ddigwyddiad hyn yn rhan o gyfres o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i ymgartrefu, gwneud ffrindiau, ac addasu i fywyd fel aelod o’r adran. Rydym yn annog myfyrwyr newydd yn gryf i fynychu’r holl weithgareddau hynny sydd wedi’u trefnu gan yr adran neu adrannau academaidd yn ystod yr wythnos groeso gan eu bod wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddysgu am strwythur y cwrs rydych wedi’i ddewis a’r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i chi yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a thu hwnt, gan gynnwys astudio drwy’r Gymraeg ac ysgoloriaethau i wneud hynny.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Gwyddorau Bywyd
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Edward Llwyd a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Er mwyn eich helpu i ymgartrefu a dod i adnabod eich cyd-myfyrwyr a staff, rydym wedi trefnu sgyrsiau croeso Adrannol a chynllun gradd ar gyfer dydd Llun, 22 Medi ar gyfer Myfyrwyr Israddedig. Byddwch yn cwrdd â chydlynydd eich cynllun gradd a'ch tiwtor personol ac yna'n ymuno â ni ar gyfer cinio pizza Adran y Gwyddorau Bywyd. Rydym wedi trefnu sgyrsiau croeso Adrannol a chynllun gradd ar gyfer ddydd Mercher, 24 Medi ar gyfer Myfyrwyr Uwchraddedig. Rydyn ni yma i'ch helpu, felly mae croeso i chi ofyn unrhyw beth i ni. Os na allwn ni eich helpu’n uniongyrchol, gallwn eich cyfeirio at rywun fydd yn gallu eich helpu.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.

Hanes a Hanes Cymru
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn yr Adeilad Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau croesawu yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru a fydd yn eich helpu i ymgartrefu ym mhob maes o fywyd prifysgol. Bydd y digwyddiadau hyn yn eich cyflwyno i'ch cwrs, yn eich galluogi i ddod i adnabod aelodau o staff yn yr adran, ac, yn bwysicaf oll, yn rhoi cyfleoedd i chi gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr Hanes. Bydd mynychu'r digwyddiadau hyn hefyd yn eich ymgyfarwyddo â lleoliad corfforol yr Adran ac yn eich helpu i deimlo'n gartrefol yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Ieithoedd Modern
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Ieithoedd Modern ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd y sesiynau croesawu yn dechrau o ddydd Llun, 22 Medi yn Adeilad Hugh Owen. Rydym yn eich annog yn gryf i fynychu'r holl weithgareddau cynefino academaidd a gynhelir yn ystod yr wythnos groeso gan y byddant yn eich helpu i ddysgu am strwythur eich gwrs, y cyfleoedd sydd ar gael a dod i adnabod staff yn eich adran.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Mathemateg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Mathemateg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad y Gwyddorau Ffisegol a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ddydd Llun, 22 Medi. Cyn bo hir byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am raglen digwyddiadau cynefino’r adran yn ystod yr Wythnos Groeso - ble i fynd a phryd. Rydym yn eih annog yn gryf i fynychu'r rhain er mwyn i ni allu dweud mwy am strwythur eich gradd Mathemateg, ac er mwyn i chi allu cwrdd ag aelodau allweddol o’r staff Mathemateg a myfyrwyr eraill ar eich cwrs.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Nyrsio Filfeddygol
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Ysgol Gwyddor Milfeddygol Aberystwyth ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn y Ganolfan Addysg Milfeddygaeth a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd gweithgareddau'r Wythnos Groesawu ar gyfer Nyrsio Milfeddygol yn dechrau ddydd Llun, 22 Medi. Byddwn yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau, sydd wedi'u cynllunio i'ch roi ar ben ffordd fel myfyriwr Nyrsio Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau cymdeithasol i'ch galluogi i wneud ffrindiau a chwrdd â staff, yn ogystal â phrosesau cofrestru Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS).
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Peirianneg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni ym Mheirianneg ym mis Medi. Rydym wedi ei lleoli yn Adeilad y Gwyddorau Ffisegol a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ddydd Llun 22 Medi.
Byddwn yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau newydd a theimlo'n rhan o'r adran yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol. Ar Ddydd Llun byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol-cyswllt allweddol a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi yn ein sesiwn Ymsefydlu ar Ddydd Llun, 22ain o Fedi yn ystafell HO-A14 (11.00 i 12:30) ar gyfer ein holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, lle cewch yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddechrau’r cwrs a chael clywed o Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Louise Marshall, ein Llyfrgellydd pwnc Joy Cadwallader ac aelodau staff allweddol eraill.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.
Digwyddiadau Croeso yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Seicoleg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Seicoleg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn P5 a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd ein gweithgareddau Wythnos Groeso yn dechrau ar fore dydd Llun 23 Medi. Bydd hwn yn yn dechrau gyda chyflwyniad gan bennaeth yr adran, yr Athro Charles Musselwhite. Bydd y croeso hwn yn cael ei gynnal yn ystafell 0.15 yn yr adeilad Ffiseg Mathemateg, gan ddechrau am 9.15AM ar y dydd Llun.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.

Theatr, Ffilm a Theledu
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Parry Williams a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Er mwyn eich helpu i ymgartrefu a dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a staff, rydym wedi trefnu gweithgareddau croesawu adrannol ar ddydd Llun 22 Medi. Byddwch yn dechrau trwy gwrdd â’ch Tiwtor Personol, ac yna ceir sgwrs ‘Croeso i’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’. Rydyn ni yma i'ch cefnogi - os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch! Os nad oes gennym ni’r ateb, byddwn yn eich cyfeirio at rywun sydd â’r atebion.
Trwy gydol yr wythnos, bydd sgyrsiau a gweithgareddau wedi'u cynllunio i'ch helpu i addasu i fywyd prifysgol, cysylltu â'ch cyd-fyfyrwyr, a chwrdd â'r staff a fydd yn eich addysgu a'ch cefnogi. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth allweddol am eich cwrs - a chofiwch am y Cwis ThFfTh mawreddog!
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.
Digwyddiadau Croeso yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Ysgol Gwyddor Filfeddygol
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Ysgol Gwyddor Milfeddygol Aberystwyth ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn y Ganolfan Addysg Milfeddygaeth a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd Wythnos Groeso i’r milfeddygon yn dechrau ddydd Llun 15 o Fedi, lle bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u trefnu sydd wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno chi i Aberystwyth a'ch gyrfa ddewisol fel Milfeddyg. Bydd y rhain hefyd yn cynnwys rhai gweithgareddau cymdeithasol i'ch galluogi i ddod i adnabod myfyrwyr eraill a staff. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am Wythnos Groeso ehangach y Brifysgol, a gynhelir yr wythnos ganlynol.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.