Digwyddiadau Croeso Ysgol Fusnes Aberystwyth

Seminar Ysgol Fusnes

Croeso i Ysgol Fusnes Aberystwyth

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Ysgol Fusnes Aberystwyth ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Os yn fyfyriwr israddedig bydd eich cyfarfod cyntaf gydag Ysgol Fusnes Aberystwyth ddydd Llun, 23 Medi am 11am yn narlithfa HO -C22, sydd yn adeilad Hugh Owen. Byddwch yn cael eich gyflwyno i fyfyrwyr eraill sy'n astudio eich gradd, a'r staff a fydd yn eich dysgu. Os yn fyfyriwr uwchraddedig bydd yn cymryd lle ar ddydd Llun, 23 Medi hefyd am 2pm yn narlithfa HO -A12, sydd yn adeilad Hugh Owen.

Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!