Digwyddiadau Creoso yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Croeso i'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Llandinam a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Mae gennym nifer o weithgareddau wedi'u cynllunio dros yr wythnosau cyntaf a fydd yn eich helpu i ddod i adnabod yr Adran, y staff a'ch gilydd. Bydd hyn yn cynnwys cwrdd â'ch Tiwtor Personol a digwyddiadau cymdeithasol lle gallwch gwrdd â myfyrwyr eraill ar eich cwrs. Byddwn hefyd yn darparu gweithgareddau maes wedi eu harwain gan staff I chi ddod i adnabod yr ardal hefyd.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.
Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2026 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!
-
Eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol
Darganfod mwy -
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear - Digwyddiadau Croeso i Fyfyrwyr Israddedig
Tabl o'r Digwyddiadau Croeso i Fyfyrwyr Israddedig
Darganfod mwy -
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear - Digwyddiadau Croeso i Fyfyrwyr Uwchraddedig
Tabl o'r Digwyddiadau Croeso i Fyfyrwyr Uwchraddedig
Darganfod mwy
