Digwyddiadau Croeso yr Ysgol Addysg

Digwyddiad Ysgol Addysg

Croeso i'r Ysgol Addysg

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Ysgol Addysg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn P5 a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r adran ddydd Llun, 22 Medi a bydd yn cynnwys cofrestru a sgyrsiau croesawu.  Bydd manylion llawn, gan gynnwys amseroedd a lleoliadau, yn cael eu rhannu’n nes at y dyddiad. Mae'r Wythnos Gynefino yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu i ymgartrefu, gan gynnwys Bwffe Croeso a Sesiwn Gwybodaeth Astudio, teithiau tywys o’r llyfrgell, a thaith gerdded o amgylch Aberystwyth gyda staff yr adran a chyd-fyfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn i gael cipolwg ar fywyd ac astudio yn Aberystwyth.

Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2026 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!