Digwyddiadau Croeso yr Adran Beirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar gyfrifiadur

Croeso i'r Adran Beirianneg

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni ym Mheirianneg ym mis Medi. Rydym wedi ei lleoli yn Adeilad y Gwyddorau Ffisegol a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ddydd Llun 22 Medi.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau newydd a theimlo'n rhan o'r adran yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol. Ar Ddydd Llun byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol-cyswllt allweddol a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau.

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.