Digwyddiadau Croeso yr Adran Ieithoedd Modern

Croeso i'r Adran Ieithoedd Modern
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Ieithoedd Modern ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd y sesiynau croesawu yn dechrau o ddydd Llun, 22 Medi yn Adeilad Hugh Owen. Rydym yn eich annog yn gryf i fynychu'r holl weithgareddau cynefino academaidd a gynhelir yn ystod yr wythnos groeso gan y byddant yn eich helpu i ddysgu am strwythur eich gwrs, y cyfleoedd sydd ar gael a dod i adnabod staff yn eich adran.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.