Digwyddiadau Croeso yr Adran Seicoleg

Croeso i'r Adran Seicoleg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Seicoleg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn P5 a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd ein gweithgareddau Wythnos Groeso yn dechrau ar ddydd Llun 22 Medi. Dyma ragolwg o'r hyn sydd ar y gweill – ar ddydd Llun, byddwn yn dechrau gyda Sgwrs Groesawu yn cyflwyno'r adran a'r staff, ac yna sesiynau sy'n benodol i'r cynllun a'ch dosbarth tiwtorial grŵp cyntaf gyda'ch tiwtor personol. Ar Ddydd Mawth ymunwch â ni ar gyfer yr Her Seicoleg, ffordd hwyliog a hamddenol o gwrdd ag eraill a gweithio gyda'n gilydd. Ymlaciwch yn ein hadran ar ddydd Iau yn gymdeithasol, gyda pizza a diodydd - cyfle delfrydol i wneud ffrindiau newydd.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.
Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!