Digwyddiadau Croeso yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Myfyrwyr TFTS yn Ffilmio

Croeso i'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Parry Williams a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Er mwyn eich helpu i ymgartrefu a dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a staff, rydym wedi trefnu gweithgareddau croesawu adrannol ar ddydd Llun 22 Medi. Byddwch yn dechrau trwy gwrdd â’ch Tiwtor Personol, ac yna ceir sgwrs ‘Croeso i’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’. Rydyn ni yma i'ch cefnogi - os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch! Os nad oes gennym ni’r ateb, byddwn yn eich cyfeirio at rywun sydd â’r atebion.

Trwy gydol yr wythnos, bydd sgyrsiau a gweithgareddau wedi'u cynllunio i'ch helpu i addasu i fywyd prifysgol, cysylltu â'ch cyd-fyfyrwyr, a chwrdd â'r staff a fydd yn eich addysgu a'ch cefnogi. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth allweddol am eich cwrs - a chofiwch am y Cwis ThFfTh mawreddog!

Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.