Canllaw i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Mae Renata Freeman Alegre, a symudodd o Fecsico i Aberystwyth i astudio yn 2021, wedi ysgrifennu blog ar gyfer ei chyd-fyfyrwyr rhyngwladol, sy’n cynnwys rhywfaint o gyngor am ymgyfarwyddo â ffordd y DU o fyw – ac sy’n cynnwys canllaw sydyn i gwrteisi, slang a bwyd yn y DU:
Gall symud i wlad newydd fod yn brofiad cyffrous ond anodd, yn enwedig wrth addasu i ffordd newydd o fyw. Mae gan y DU lawer iawn o draddodiadau, diwylliannau amrywiol a normau cymdeithasol unigryw.
I fyfyrwyr rhyngwladol, gall deall cwrteisi, slang ac agweddau hanfodol ar fywyd pob dydd yn y DU olygu bod ymgartrefu’n brofiad haws a mwy pleserus.
Deall cwrteisi yn y DU
Un o’r pethau cyntaf y byddwch yn sylwi arnynt yn y DU yw bod cwrteisi yn rhan BWYSIG o fywyd pob dydd. Caiff geiriau Saesneg megis “please”, “thank you” a “sorry” eu defnyddio’n aml. Hyd yn oed os bydd rhywun yn taro yn eich erbyn yn ddamweiniol, byddant yn ymddiheuro.
Rwy’ wedi gweld ei bod yn hanfodol addasu i’r ffordd gwrtais hon o gyfathrebu – mae’n bendant wedi newid y ffordd rwy’n cysylltu â’r bobl sydd o’m cwmpas.
Dyma fy allwedd i ar gyfer bod yn gwrtais yn y DU wrth ofyn am bethau:
Dychmygwch fy mod yn prynu paned o goffi:
“Hello … can I please get … a latte to take out? … Thank you so much … Take care.”
A dyna ni! Mae mor hawdd â hynny, a byddwch yn cael gwasanaeth gyda gwên. Gallwch ddefnyddio’r un math o gystrawen Saesneg, i bob pwrpas, wrth brynu unrhyw beth arall.
Mae sefyll mewn ciw yn agwedd hollbwysig arall ar gwrteisi yma yn y DU. Cewch eich ystyried yn anghwrtais os byddwch yn neidio’r ciw, felly cofiwch ddisgwyl eich tro bob amser. Os ydych wrth ymyl arhosfan bysiau, gadewch i bobl ddod oddi ar y bws cyn i chi fynd i mewn iddo; wrth aros am y lifft, gwnewch yn siŵr nad ydych yn sefyll o flaen canol y drws, rhag ofn bod angen i rywun sydd yn y lifft ddod allan. Mae’n hawdd iawn cyflawni hyn i gyd – yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw meddwl am bobl eraill cyn meddwl amdanoch chi eich hun.
Mae pwys mawr yn cael ei roi ar brydlondeb hefyd. Mae’n arwydd o barch. Gallwch ddysgu o’m camgymeriad i. Wrth dyfu i fyny ym Mecsico, prin y byddech yn gweld unrhyw un yn cyrraedd darlithoedd, cyfarfodydd neu hyd yn oed eu gwaith yn brydlon – byddai pawb bob amser 20 munud yn hwyr. Pan ddechreuais fynd i ddarlithoedd yn y DU, cyrhaeddais ynghanol seminar, collais gymaint o’r cynnwys a chefais fy ngheryddu am fod yn hwyr. Roeddwn yn teimlo cymaint o gywilydd! Felly, cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd darlithoedd – a phopeth arall, a dweud y gwir – yn brydlon.
Ymgyfarwyddo â slang
Gall slang yn y DU fod yn ddryslyd. Yn aml, bydd gan ymadroddion Saesneg cyffredin ystyron gwahanol. Dyma rai enghreifftiau i’ch helpu i ddechrau deall slang Saesneg:
“Cheers”: Roeddwn i’n meddwl mai gair i’w ddefnyddio wrth gynnig llwncdestun i rywun oedd hwn; ond caiff ei ddefnyddio hefyd pan fydd rhywun yn diolch i chi am wneud rhywbeth, yn enwedig os oedd y person yn disgwyl yn barod i chi wneud y peth hwnnw. Er enghraifft, rydych yn agor drws ac yn ei gadw ar agor ar gyfer y person sy’n dod i mewn neu’n eich dilyn. Mae’r person hwnnw’n dweud “Cheers”. Mae’n diolch i chi am gadw’r drws ar agor iddo, er ei fod yn disgwyl yn barod i chi wneud hynny, oherwydd byddai peidio â chadw’r drws ar agor yn cael ei ystyried yn weithred anghwrtais.
“Mate”: Ffordd gyfeillgar o gyfeirio at ffrind; mae’n debyg i “buddy” neu “pal”.
“Knackered”: Pan fyddwch yn teimlo’n eithriadol o flinedig.
“Chuffed”: Pan fyddwch yn teimlo’n wirioneddol falch neu hapus â rhywbeth.
“Fancy”: Os ydych yn hoffi rhywbeth neu rywun, rydych yn ei ffansïo.
“Dodgy”: Rhywbeth neu rywun sy’n edrych yn amheus neu o ansawdd gwael.
“Nicked”: Rhywbeth sydd wedi’i ddwyn neu rywun sydd wedi’i ddal gan yr heddlu.
“Ta”: Ffurf fer ar “thank you”.
Bwyd yn y DU
Does yr un cyflwyniad i fywyd yn y DU yn gyflawn oni bai ei fod yn sôn am rai o brydau bwyd eiconig y DU. Dyma rai y dylech eu blasu:
- Pysgod a sglodion: Y pryd tecawê clasurol; gallwch ei gael gyda phys a saws tartar.
- Brecwast Seisnig llawn: Wyau, bacwn, tomatos, selsig, ffa pob, madarch a thost; rhowch y brecwast hwn ar eich rhestr o bethau y mae’n rhaid i chi eu profi.
- Cinio rhost dydd Sul: Mae’n ginio a gaiff ei weini ar achlysuron arbennig neu ar ddydd Sul. Mae cinio rhost yn cynnwys cig rhost, tatws, pwdin Swydd Efrog, llysiau a grefi. Mae yna lawer o leoedd yn Aberystwyth lle gallwch flasu’r pryd bwyd hanfodol hwn sy’n nodweddiadol o’r DU.
- Pastai bugail: Mins cig oen, wedi’i orchuddio â thatws stwnsh – y pryd delfrydol ar gyfer diwrnod oer a gwlyb.
- Rhôl selsig: Y brecwast perffaith i fyfyrwyr, yn fy marn i – mae’n rhad ac mae’n eich digoni.
- Rhôl facwn: Mae gan rhôl facwn sawl enw Saesneg – “bacon bap”, “bacon bun” neu “bacon roll” ond mae’r cynhwysion yr un fath – bacwn mewn rhôl fara. Gallwch ychwanegu sôs brown neu sôs coch ato.
Mae ymgartrefu yn y DU fel myfyriwr rhyngwladol yn siwrnai o archwilio a dysgu. Mae cymaint o bethau i’w darganfod am y rhan hyfryd hon o’r byd, o’i cherddoriaeth i’w henwogion a’i ffilmiau. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu darganfod i gyd, os gallwch chi.
Efallai fod y DU yn wahanol iawn i’ch cartref, ond cofiwch… dyna’r holl bwynt! Rydych ar antur, yn darganfod rhan newydd o’r byd, felly mae’n naturiol nad yw rhai pethau’n gwneud synnwyr. Cymerwch bob diwrnod fel y daw – a mwynhewch y profiad.
Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.