Sesiynau Sul CroesoAber

Mae Sesiynau Sul CroesoAber yn sgyrsiau wyneb yn wyneb rhyngweithiol i ateb eich holl gwestiynau pwnc llosg wedi cyrraedd Aber. Mae hwn yn ddigwyddiad hanfodol y dylech fynd iddo yn ystod y Penwythnos Croeso.
Bwriad ein Sesiynau Croeso Aber yw darparu gwybodaeth i chi i wneud y gorau o’ch amser yn y brifysgol. Mae ein myfyrwyr presennol yn rhannu’r hyn bydden nhw wedi hoffi gwybod wrth ddechrau. Mae’r sesiynau hefyd yn caniatáu i chi fel myfyrwyr newydd ofyn y cwestiynau hynny sy’n bwysig i chi.
Dylsech chi fynychu'r sgwrs perthnasol yn seiliedig ar y ffaith eich bod yn Fyfyriwr Israddedig, Uwchraddedig, Rhyngwladol neu cyfrwng Cymraeg. Fel y nodwyd yn yr amserlen islaw, mae’r sgyrsiau Israddedig CroesoAber yn seiliedig ar ble rydych chi’n byw a dylsech fynychu ar yr amser cyfatebol. Os nad ydych yn byw mewn llety a reolir gan y Brifysgol, gallwch ddewis amser sy’n gweddu orau i chi.