Eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol

Myfyrwyr a calendr. Credyd delweddaeth: storyset.com

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu ym mis Medi 2025.

Gallwch ddefnyddio y Cynllunydd Ymgartrefu Personol i'ch helpu i ddarganfod y digwyddiadau sy'n benodol i chi yn ystod Wythnos Groeso.

Nodwch fod dwy ffordd o weld y Cynllunydd Ymgartrefu. Bydd y wybodaeth yn ymddangos yn y fformat cardiau, ond gallwch newid yr olwg i weld y wybodaeth ar ffurf tabl trwy ddewis yr opsiwn tabl.

Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn o ddigwyddiadau Croeso o ddechrau mis Medi yma.

Gweld eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol

Gweld eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol

1

Gallwch fynd at eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol drwy’r ddolen berthnasol. Bydd angen eich manylion mewngofnodi a chyfrinair Prifysgol arnoch.

2

Bydd tab ‘Ymsefydlu yn eich Adran’ yn cynnwys yr holl ddigwyddiadau sy’n berthnasol i’ch Adran a’ch cwrs astudio. Bydd y tab ‘Gweithgareddau Croeso Cyffredinol’ yn cynnwys manylion yr holl ddigwyddiadau a drefnir gan y Tîm Croeso Canolog, Teithiau Llyfrgell a digwyddiadau Undeb Aber a Bywyd Preswyl, sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr.

3

Gallwch weld y wybodaeth fel cardiau digwyddiadau neu mewn fformat tabl, yn ôl eich dewis.

Gweld yr Holl Wybodaeth am Ddigwyddiadau

Gweld yr Holl Wybodaeth am Ddigwyddiadau

1

Ewch i training.aber.ac.uk a dewis ‘Sesiynau sydd ar gael (Myfyrwyr)’ o’r opsiynau a gyflwynir. Bydd angen eich manylion mewngofnodi a chyfrinair Prifysgol arnoch.

2

Defnyddiwch yr hidlenni perthnasol ar y ddewislen ar y chwith. Ar gyfer digwyddiadau Croesawu ac Ymsefydlu, defnyddiwch yr hidlydd ‘Croeso ac Ymsefydlu Myfyrwyr 2025’ dan ‘Categorïau’.

3

Gellir gosod hidlenni yn ôl y fformat cyflwyno, iaith cyflwyno, targed cyflwyno ac adran darged.

4

Gallwch weld y wybodaeth fel cardiau digwyddiadau neu mewn fformat tabl, yn ôl eich dewis.