Diwrnodau Blasu ADGD i ddarpar ymgeiswyr
Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn eich gwahodd i’w Diwrnod Blasu Prifysgol ddydd Gwener 9 Medi 2018. Byddwn yn archwilio labordy naturiol Aberystwyth a’i chwmpasoedd.
Camau nesaf:
- Darllenwch y manylion a’r Cwestiynau Cyffredin isod.
- Cofrestrwch ar gyfer ein Diwrnod Agored 15 o Medi> Cymraeg.
- Mynegwch eich diddordeb yn ein Diwrnod Blasu trwy cofrestru yma
Y Manylion
Mae’r Diwrnod Blasu’n dechrau am 12.45 ar 14 Medi.
Yn ystod y Diwrnod Blasu byddwn yn ymweld â nifer o leoliadau yn Aberystwyth. Bydd llawer o brosiectau a arweinir gan staff a gweithgareddau i fyfyrwyr trwy gydol y dydd, a bydd y rhain, yn ogystal â’r trafodaethau dilynol, yn cynorthwyo eich astudiaethau Safon Uwch / Addysg Bellach presennol.
Bydd ein darlithwyr yn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd nôl i Gampws Penglais erbyn 17.30.
Beth i’w bacio
Eitemau hanfodol:
- Esgidiau cadarn a chyfforddus. Byddwn yn cerdded ar lwybrau da am y rhan fwyaf o’r dydd, ond bydd rhai arwynebau graeanog a llawr cobls i’w cerdded hefyd.
- Trowsus cyfforddus
- Siaced sy’n dal glaw.
- Het haul, sbectol haul ac eli haul.
- Byrbrydau a digonedd o ddiod ar gyfer y prynhawn.
- Camera.
- Llyfr ysgrifennu bach a phensil.
- Dillad anffurfiol ar gyfer y bwffe gyda’r nos.
Hefyd gallwch ystyried dod â:
- Dillad addas sy’n dal glaw, os yw’r tywydd yn edrych yn wael.
- Rhywfaint o arian parod ar gyfer lluniaeth ganol y prynhawn.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i fynegi eich diddordeb yn ein Diwrnod Blasu, cysylltwch â Helen Stockley Jones ar iges-admissions@aber.ac.uk
Cwestiynau Cyffredin
C. Rwy'n athro, gallaf ddod â grŵp o fyfyrwyr ar hyd?
A. Yn hollol! Cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drefnu'r logisteg.
C. Pa amser ddylwn i/ddylen ni gyrraedd?
A. Rydym yn argymell i chi gyrraedd erbyn 12 canol dydd. Mae’r Diwrnod Blasu’n dechrau am 12.45. Byddwn yn cyfarfod yn y Tanc Meddwl yn Adeilad Llandinam (cartref yr ADGD) ac yn anelu i gychwyn y daith faes am 13.00.
C. Faint o’r gloch mae’r Diwrnod Blasu’n gorffen?
A. Byddwn yn anelu i orffen gweithgareddau’r dydd erbyn 17.30.