Cyflwyno gwaith ymchwil i Senedd y D.U.

15 Mawrth 2015

Mae Monika Perkowska, myfyrwraig PhD yn yr adran, wedi cael ei dewis i gyflwyno ei gwaith ymchwil ar Ffracio Hydrolig i Aelodau Seneddol yn ystod y digwyddiad “SET for Britain”. Bydd yn cyflwyno’i gwaith yno fis Mawrth, yn y sesiwn ar gyfer y Gwyddorau Mathemategol.