Cyfleusterau ar gyfer Bwydo ar y fron, Tynnu llaeth a Bwydo o’r botel

Mae campysau'r Brifysgol yn gwbl gyfeillgar i fwydo ar y fron ac nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran bwydo o’r botel neu fwydo ar y fron. Rydym yn deall y gallai fod yn well gan rieni weithiau gael man preifat, tawel a diogel i fwydo’u baban (o’r botel neu ar y fron) neu i dynnu llaeth.

Mae gennym ystafelloedd pwrpasol ar gyfer bwydo ar y fron/tynnu llaeth i gynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n bwydo ar y fron, neu i’w defnyddio gan gydweithwyr beichiog sydd angen man preifat i orffwys. Mae’r cyfleusterau hyn yn agored i’r holl fyfyrwyr a staff.

Yr ystafelloedd a’u lleoliadau:

Ystafell i Deuluoedd, Undeb y Myfyrwyr

Llun o'r ystafell teulu | photo of the family room Mae’r ystafell hon yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr – os hoffech ei defnyddio siaradwch â’r tîm wrth y dderbynfa; does dim angen archebu ymlaen llaw.

Mae’r ystafell breifat hon yn cynnwys cadair esmwyth a soffa, sinc a chyfleusterau ymolchi preifat â chownter, ffynhonnell olau naturiol a socedi trydan. Mae’r gegin gerllaw yn cynnwys microdon, a gellir defnyddio’r oergell wrth y dderbynfa i gadw llaeth yn ddiogel.

Ystafell 8, Canolfan Uwchraddedig, Adeilad Llandinam

Llun o'r ystafell teulu | photo of the family room Mae’r ystafell hon yn y Ganolfan Uwchraddedig. Gall staff a myfyrwyr ddefnyddio eu CerdynAber i gael mynediad i’r ystafell trwy anfon e-bost at sitesecurity@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 622649.

Unwaith y bydd gennych fynediad ar eich CerdynAber bydd modd i chi ddefnyddio’r ystafell pryd bynnag y byddwch ei angen.

Mae’r ystafell breifat yn cynnwys cadair esmwyth a soffa, bwrdd coffi, digonedd o olau naturiol a socedi trydan. Mae cegin gerllaw sy’n cynnwys sinc a chyfleusterau ymolchi a chownter, microdon, ac oergell i gadw llaeth yn ddiogel.

 

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig