Proffiliau Staff - Digwyddiadau

Mae’r Tîm Digwyddiadau yn gyfrifol am drefnu a datblygu rhaglen o ddigwyddiadau a gynhelir gan y Brifysgol sy’n cefnogi’n cenhadaeth gorfforaethol gyffredinol ac yn gwella’n proffil. Mae’r rhain yn cynnwys Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr ac Wythnos y Graddio. Yn ogystal â rhedeg digwyddiadau ar y campws, mae’r tîm yn gyfrifol am drefnu a datblygu digwyddiadau a gynhelir yn allanol - yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd a’r Genedlaethol, a Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. digwyddiadau@aber.ac.uk