Polisi Hysbysebu Swyddi Gwag a Chyfleoedd

Menyw ifanc yn gweithio mewn tafarn

Diben y polisi hwn yw amlinellu'r safonau, yr amodau a’r gweithdrefnau sy'n ymwneud â hysbysebu swyddi gwag a chyfleoedd drwy'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a'r porth swyddi gwag, gyrfaoeddABER. Mae hyn yn sicrhau bod cyfleoedd a hyrwyddir i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth yn ddilys, yn deg, yn gynhwysol, yn cydymffurfio â'r gyfraith, ac yn cyd-fynd â disgwyliadau moesegol a diogelu'r Brifysgol.

Dylid darllen y polisi hwn ochr yn ochr â Pholisi Gyrfaoedd Moesegol y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Pan fo unrhyw wrthdaro, bydd y Polisi Gyrfaoedd Moesegol yn cael blaenoriaeth wrth benderfynu a ellir hyrwyddo sefydliad neu gyfle drwy gyrfaoeddABER.

Cwmpas

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob cyfle a gyflwynir i'w hyrwyddo drwy’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a’r porth swyddi gwag, gyrfaoeddABER, gan gynnwys:

  • Cyflogaeth i raddedigion
  • Cyflogaeth i fyfyrwyr (rolau rhan-amser, yn ystod y tymor)
  • Lleoliadau ac interniaethau
  • Gwaith llawrydd
  • Gwirfoddoli
  • Gwaith yn ystod y gwyliau
  • Cyfleoedd a gyllidir i ôl-raddedigion

Gofynion ar gyfer Hysbysebu Swyddi Gwag

I hysbysebu drwy gyrfaoeddABER, rhaid i gyflogwyr:

  • Gofrestru cyfrif ar gyrfaoeddABER - rwy ddarparu manylion llawn eu sefydliad, gan gynnwys enw'r sefydliad, cyfeiriad busnes, gwefan, a chyswllt rôl-benodol.
  • Bod yn sefydliad cyfreithlon neu’n fusnes cofrestredig a dal unrhyw yswiriant, trwyddedau, cofrestriadau neu achrediadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cadw'r hawl i ofyn am wybodaeth ychwanegol i wirio sefydliad neu gyfle cyn ei gyhoeddi, gan gynnwys cynnal gwiriadau drwy Dŷ'r Cwmnïau a ffynonellau rheoleiddiol neu ffynonellau gwybodaeth cyhoeddus perthnasol eraill lle bo hynny'n briodol.
  • Darparu gwybodaeth gyflawn a chywir am swyddi gwag - gan gynnwys disgrifiad swydd clir, cyfrifoldebau, sgiliau a chymwysterau gofynnol. 
  • Darparu amserlenni clir ar gyfer ymgeisio a hysbysebu - gan gynnwys rhoi digon o rybudd cyn dyddiadau cau, a dolen ar gyfer ceisiadau ar-lein
  • Darparu tâl teg - gan gynnwys nodi’r cyflog yn glir, ystod y cyflog neu’r gyfradd fesul awr. Rhaid i gyfleoedd sydd wedi'u lleoli yn y DU gydymffurfio â deddfwriaeth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Gweler yr adran Hysbysebu Cyfleoedd i Wirfoddoli isod am fanylion ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli.
  • Cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyflogaeth gyfredol a'r safonau proffesiynol - gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Swyddi gwag nad ydynt yn gymwys ar gyfer eu hysbysebu 

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gyfle yr ydym yn ei ystyried yn anaddas, yn anniogel, yn anfoesol, yn gamarweiniol, yn wahaniaethol, neu'n groes i fuddiannau gorau ein myfyrwyr a'n graddedigion, hyd yn oed pan nad yw'r amgylchiadau wedi'u cynnwys yn benodol yn y polisi hwn.

Mae hyn yn cynnwys swyddi gwag:

  • Sydd â diffyg tryloywder neu gyfreithlondeb cyflogwr - gan gynnwys darparu gwybodaeth anghyflawn, anghywir neu gamarweiniol; yn methu â darparu digon o wybodaeth i wirio'r sefydliad neu'r swydd wag; neu sy’n cael ei hysbysebu trwy drydydd partïon lle na ellir adnabod y sefydliad recriwtio.
  • Sy’n torri gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol neu foesegol - gan gynnwys diffyg cydymffurfio â chyflogaeth, cydraddoldeb, iechyd a diogelwch, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu ddeddfwriaeth berthnasol arall.
  • Sy’n creu risg ariannol neu bersonol i fyfyrwyr a graddedigion - gan gynnwys ei gwneud hi’n ofynnol i ymgeiswyr dalu i wneud cais, cael mynediad neu ymgymryd â chyfleoedd am swydd gyflogedig; cynnig tâl comisiwn yn unig; neu fod yn gysylltiedig â chynllun pyramid, neu gynlluniau tebyg.
  • Sy’n Tanseilio Uniondeb Academaidd - gan gynnwys ysgrifennu, golygu, gwerthu neu gyflenwi gwaith academaidd ar ran eraill.
  • Sy’n cael eu hystyried yn anaddas ar gyfer eu hyrwyddo drwy gyrfaoeddABER - yn seiliedig ar natur y sefydliad, cyfle, amgylchedd gwaith, risg bosibl i fyfyrwyr a graddedigion.

Hysbysebu Cyfleoedd i Wirfoddoli

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cydnabod gwerth gwirfoddoli wrth gefnogi datblygiad personol, cyflogadwyedd, ymgysylltu â'r gymuned ac effaith gymdeithasol.

Gellir hysbysebu cyfleoedd i wirfoddoli drwy gyrfaoeddABER os ydynt yn cynrychioli gweithgarwch gwirfoddol gwirioneddol ac yn cael eu cynnig gan sefydliad cyfreithlon. Gall hyn gynnwys elusennau cofrestredig, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol, sefydliadau yn y sector cyhoeddus, sefydliadau addysgol, a sefydliadau nid-er-elw.

Y disgwyliadau o ran cyfleoedd i wirfoddoli:

  • Dylid ymgymryd â’r cyfleoedd heb ddisgwyl taliad. Pan fo cymryd rhan yn cynnwys unrhyw gostau i'r ymgeisydd, rhaid i'r rhain gael eu nodi’n eglur yn yr hysbyseb a'u cyfathrebu'n dryloyw trwy gydol y broses recriwtio.
  • Ni ddylai ddisodli gwaith cyflogedig neu gael ei ddefnyddio i osgoi rhwymedigaethau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
  • Dylid disgrifio natur y rôl a'r cyfrifoldebau disgwyliedig yn glir.
  • Dylai’r cyfleoedd gael eu cynnig gan sefydliad adnabyddadwy y gellir ei wirio gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
  • Dylid cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, diogelu a chydraddoldeb berthnasol.

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cadw'r hawl i wrthod cyfleoedd gwirfoddoli y mae'n credu eu bod yn fwy priodol fel gwaith cyflogedig, interniaethau neu brofiad gwaith.

 

Cyfleoedd Moesegol a Chynaliadwy

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i chwilio am gyfleoedd ar draws amrywiaeth eang o sectorau a sefydliadau. Fel yr amlinellir ym Mholisi Gyrfaoedd Moesegol y Brifysgol, rydym yn annog cyfleoedd sy'n dangos arferion cyflogaeth cyfrifol ac effaith gymdeithasol neu amgylcheddol gadarnhaol, tra'n cadw'r hawl i wrthod cyfleoedd sy'n gwrthdaro ag egwyddorion y polisi hwnnw.

Cymeradwywyd ym mis Awst 2026 gan Bev Herring, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Prifysgol Aberystwyth. Adolygir y polisi hwn yn flynyddol.

Os oes gennych ymholiadau ynglŷn â’r polisi hwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, ar 01970 622378 neu gyrfaoedd@aber.ac.uk.