Cyfleoedd i Raddedigion
Mae graddio yn garreg filltir gyffrous ac yn ddechrau pennod newydd. P'un a oes gennych nod gyrfa clir mewn golwg neu eich bod yn dal i archwilio eich opsiynau, mae llawer o lwybrau ar gael i chi ar ôl y brifysgol.
Mae cyfleoedd i raddedigion yn cynnwys:
- Swydd i Raddedigion: swydd sydd fel arfer yn gofyn am sgiliau, gwybodaeth neu gymwysterau lefel gradd.
- Cynllun Graddedigion: swydd lefel graddedig gyda hyfforddiant a datblygiad wedi'u hymgorffori, wedi'i chynllunio i'ch helpu i lansio'ch gyrfa.
- Astudiaethau Pellach: parhau â'ch addysg ar ôl graddio drwy astudiaeth ôl-raddedig, cymwysterau proffesiynol neu hyfforddiant arbenigol.
- Dechrau Eich Busnes Eich Hun: troi eich sgiliau, gwybodaeth a syniadau yn fusnes, gyrfa llawrydd neu fenter.
- Gweithio'n Rhyngwladol: archwilio cyfleoedd gyrfa, profiad gwaith a bywyd y tu hwnt i'ch mamwlad.
- Interniaethau a Lleoliadau Gwaith: cyfleoedd i ennill profiad ymarferol, datblygu sgiliau cyflogadwyedd ac archwilio llwybrau gyrfa posibl.
Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi'r sgiliau rydych wedi'u datblygu yn ystod eich astudiaethau, gan gynnwys cyfathrebu, gweithio mewn tîm, datrys problemau, ymchwilio a sgiliau digidol. Gall profiadau a gafwyd drwy waith rhan-amser, lleoliadau, gwirfoddoli a gweithgareddau allgyrsiol hefyd eich helpu i sefyll allan.
Nid oes un llwybr "cywir" ar ôl graddio. Mae rhai graddedigion yn sicrhau swydd cyn cwblhau eu hastudiaethau, tra bod eraill yn cymryd amser i archwilio opsiynau, ennill profiad neu fireinio eu nodau gyrfa. Gall pob profiad eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder ac ennill gwell dealltwriaeth o'ch opsiynau.
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i'ch cefnogi wrth i chi archwilio eich camau nesaf. Darganfyddwch y cymorth Dyfodol Graddedigion sydd ar gael i'ch helpu i symud ymlaen yn hyderus.
