Dathlwch y Nadolig gyda ni

Ydych chi’n edrych ymlaen at gynulliad Nadoligaidd?  Gyda'r Nadolig yn agosáu'n gyflym, ymunwch â'r Gwasanaethau Croeso am ddathliad cynnes, cyfeillgar ac ymlaciol ar draws ein safleoedd.

 

Partïon Nadolig

 

Ymunwch â ni yn Ystafelloedd Medrus am ein ciniawau a’n swperau Nadoligaidd. Mwynhewch ein Cerfdy Nadolig traddodiadol gyda bwrdd pwdin a the, coffi a mins peis i orffen. Archebwch fwrdd o flaen llaw ar gyfer eich ffrindiau a'ch teulu ar y dyddiadau canlynol.

Dydd Mercher 3 a dydd Iau 4 Rhagfyr 2025 12.00yp-2.00yp

Cinio 2 cwrs

£19.95

  

Noder bod Canolfan Gynadledda Medrus yn cynnal digwyddiadau archebu o flaen llaw a thalu o flaen llaw.

I gadw eich bwrdd, e-bostiwch y gwasanaeth croeso (hospitality@aber.ac.uk), bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hanfon ynghylch talu.

 

Y Neuadd Fwyd

 

Dydd Mercher 3, dydd Iau 4 a dydd Mercher 10 Rhagfyr 25

Bydd Cerfdy Twrci a'r holl drimins Nadolig ac opsiwn llysieuol / fegan ar gael o 12.00yp -2.00yp oddi ar fwrdd y cogydd.

 

Gogerddan

 

Dydd Iau 4 Rhagfyr 2025

Bydd Cerfdy Twrci a'r holl drimins Nadolig ac opsiwn fegan ar gael o 12.00yp -1.30yp

 

Pantycelyn

 

Dydd Iau 4 Rhagfyr 2025

Byddwn yn cynnal noson ar thema'r Nadolig rhwng 5.00yp a 7.00yh. Mae croeso i holl breswylwyr Pantycelyn, a’r rhai nad ydynt yn breswylwyr ym Mhantycelyn.

 

Diolch am eich cefnogaeth trwy gydol 2025 ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn 2026.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

Gwasanaethau Croeso