Caffibach
Croeso i Caffibach
Wedi'i leoli ar lawr gwaelod Adeilad Gwendolen Rees. Campws Penglais
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener | 08:30 – 17:00 gall argaeledd y gwasanaeth amrywio y tu allan i amseroedd tymor y brifysgol. Oriau agor
Mae Caffibach yn cynnig awyrgylch cynnes, cyfeillgar gyda digon o seddi cyfforddus - mae’n ddelfrydol ar gyfer cwrdd â ffrindiau, cael seibiant, gweithio ar eich gliniadur, neu fwynhau cyfarfod hamddenol dros goffi neu un o'n te arbenigol newydd.
Gall staff a myfyrwyr hefyd fwynhau gostyngiadau unigryw, ac mae ein baristas hyfforddedig bob amser yn hapus i baratoi'ch diod yn union fel yr hoffech chi.
Beth sydd ar gael:
Diodydd Poeth ac Oer
- Te a choffi arbenigol
- Cappuccino, Latté, Espresso, Americano, Mocha
- Siocled poeth cyfoethog
- Smŵddis a frappés
Bwyd a Byrbrydau
- Brechdanau wedi’u tostio a Phaninis
- Cacennau a chwcis
- Dewisiadau heb glwten a figan ar gael
- Ffrwythau ffres a melysion
- Amrywiaeth manwerthu bach
Prydau Bargen
£3.65: mae’n cynnwys brechdan, diod a’ch dewis o ffrwyth, iogwrt, siocled neu greision
Cynllun Teyrngarwch
Cofiwch ysgogi eich cerdyn teyrngarwch (Magic Stamp) i ddechrau casglu stampiau er mwyn cael diod boeth am ddim! Chwiliwch am "magic stamp" o’r storfa apiau.
Sylwch nad yw Caffibach yn derbyn arian parod, rydyn ni’n derbyn pob taliad â cherdyn a chardiau Aber.
Yr holl ffotograffau gan Darya koskeroglu