Gwybodaeth am Ddiogelu Data
Ar 25 Mai 2018, bydd Deddf Diogelu Data 1998 yn cael ei disodli gan ddeddfwriaeth newydd, sef y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Bydd hyn yn darparu cyfraith preifatrwydd data sengl i holl wladwriaethau Ewrop yn ogystal â’r DU. Mae rhai o’r newidiadau allweddol yn cynnwys rhagor o hawliau i wrthrych y data, rheolau newydd yn ymwneud â chaniatâd, a gofyniad am hysbysiadau mwy manwl ac eglur.
Diben y weddalen hon yw darparu gwybodaeth angenrheidiol i unigolion ynghylch y modd y mae’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn casglu a phrosesu data personol. Mae’r trefniadau cysylltiedig â’r gweithgareddau a allai olygu bod y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn prosesu data personol yn cael eu disgrifio yn y datganiadau diogelu data canlynol. Gofynnir i unigolion ymgyfarwyddo â’r dogfennau hyn cyn ymwneud ag unrhyw un o’r prosesau.
| Dogfennau | Mathau o brosesau casglu data sy’n berthnasol | 
| Asesiadau Risg, Asesiadau DSE, PEEP, ac ati. | |
| Hysbysiad Preifatrwydd Cofnodi Digwyddiadau Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd | Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad, Ymchwiliadau i Ddigwyddiad, Adroddiadau RIDDOR ac ati. | 
| Tystysgrifau Hyfforddi, Cofrestri Presenoldeb, Cofnodion Hyfforddi, ac ati. | 
Os bydd unigolion angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad am unrhyw un o’r dogfennau uchod, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar 01970 62(2073).
