Polisi Ystorfa Gwrthrychau Dysgu
Mae'r Ystorfa Gwrthrychau Dysgu [YGD] yn caniatáu inni greu eitemau'n ganolog i gydweithwyr eu copïo i'w cyrsiau a'u mudiadau. Gellir diweddaru eitemau’r YGD, gan gymhwyso newidiadau i eitemau cynnwys ar draws pob cwrs a mudiad.
https://help.blackboard.com/Learn/Administrator/SaaS/Tools_Management/LOR
Mae'r YGD yn ddelfrydol ar gyfer cynnwys safonol sy'n ofynnol ar draws llawer o gyrsiau. Er enghraifft:
- Eitemau safonol i’w cynnwys mewn cyrsiau
- Polisïau
- Ffynonellau Cymorth
- Datganiadau DA Cynhyrchiol
- Canllawiau a chymorth sgiliau
Er mwyn helpu i reoli ansawdd a nifer y cynnwys yn yr YGD, rydym wedi datblygu'r safonau isod. Mae gan grëwr y cynnwys gyfrifoldeb i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu bodloni. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr YGD (eddysgu@aber.ac.uk).
Creu Cynnwys
- Rhaid i gynnwys yr YGD
- Gael ei greu fel dogfen mewn Mudiad Ymarfer
- Fod ar gael fel dogfennau Cymraeg a Saesneg ar wahân, neu ddogfen ddwyieithog
- Sicrhau bod dogfen ddwyieithog yn dilyn Safonau’r Gymraeg PA gyda'r Gymraeg yn ymddangos yn yr un maint ac uwchben neu i'r chwith o'r Saesneg. Gall y cynllun 2 golofn yn Dogfennau Blackboard helpu gyda hyn.
- Fod yn gwbl hygyrch gyda Sgôr Ally o 100%.
- Fod wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan nifer fawr o gyrsiau Blackboard (er enghraifft gan yr holl staff mewn adran). Efallai y byddwn yn gwrthod ychwanegu cynnwys a fydd yn cael ei ddefnyddio gan nifer fach o staff neu gyrsiau yn unig.
- Gydymffurfio â hawlfraint
- Rydym yn argymell yn gryf y dylai’r holl gynnwys:
- Gael ei ysgrifennu yn mewn Cymraeg / Saesneg syml.
- Gael ei gynllunio i ofyn am gyn lleied o newidiadau â phosibl – ni fyddwn yn derbyn cynnwys sy'n gofyn am ddiweddariadau rheolaidd, wedi'u cynllunio. Lle bo hynny'n bosibl, rhowch ddolen i'r ffynhonnell awdurdodol unigol am wybodaeth yn hytrach na chopïo testun i’r eitem yn yr YGD.
- Gynnwys cyfeiriad e-bost yn yr eitem rhag ofn bod gan ddefnyddwyr unrhyw gwestiynau neu ddolen i adnodd ar-lein gyda rhagor o wybodaeth (gan gynnwys pwynt cyswllt)
- Gellir copïo eitemau’r YGD i gyrsiau ond ni ellir eu golygu gan staff; nid yw eitemau yn addas i'w defnyddio fel templedi.
Gofyn am ychwanegu cynnwys
- Dylid cyflwyno pob cais i eddysgu@aber.ac.uk
- Dylai'r cais ddarparu manylion eu Mudiad Ymarfer ac enw a lleoliad yr eitem sydd i'w hychwanegu.
- Gall yr UDDA wrthod ychwanegu cynnwys os oes deunydd tebyg eisoes yn yr YGD. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes deunydd tebyg ar gael.
- Dylai pob eitem yn yr YGD fod ag enwau cyswllt cynradd ac eilaidd a fydd yn gyfrifol am adolygu ac ymdrin â chwestiynau / cwynion (gallai un o'r rhain fod yn gyfeiriad e-bost adrannol)
Newid cynnwys
- Dylid anfon pob cais am newidiadau at eddysgu@aber.ac.uk gyda manylion y testun Cymraeg a Saesneg newydd. Ni fydd newidiadau yn cael eu gwneud i un iaith heb y llall (oni bai bod gwall yn un o'r ieithoedd)
- Bydd pob cais am newidiadau yn cael ei brosesu mewn 3 diwrnod gwaith. Os oes angen eich newid erbyn dyddiad penodol, byddwch yn ymwybodol o'r amserlen hon.
Adolygu cynnwys
- Rhaid adolygu pob eitem yn flynyddol yn ystod yr haf. Rydym yn cadw'r hawl i gael gwared ar gynnwys nad yw wedi'i adolygu.
- Byddwn yn monitro defnydd o’r YGD ac yn cysylltu â pherchnogion cynnwys os nad yw'r eitem wedi'i defnyddio yn y flwyddyn flaenorol i wirio a oes ei hangen o hyd.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau
- Nid yw’r UDDA yn gyfrifol am gynnwys a grëwyd gan staff eraill
- Bydd unrhyw gwynion neu gwestiynau yn cael eu hanfon at y cyswllt a enwyd ar gyfer y cynnwys.
- Mae’r UDDA yn cadw'r hawl i ddileu neu sicrhau nad yw cynnwys ar gael nes y gellir datrys cwynion
Cadw cofnodion
Gweler y rhestr o'r cynnwys Eitemau YGD / LOR items