Newyddion a Digwyddiadau
Am y diweddaraf am systemau a gwasanaethau'r Brifysgol, ewch i Statws Gwasanaethau PA
Sesiynau Hyfforddiant Addysg Ddigidol
18/08/2026
Mae ein sesiynau hyfforddi staff ar gyfer semester 1 bellach ar gael ar y system archebu hyfforddiant. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein cofnod blog
Oriau Agor mis Medi yn Llyfrgell Hugh Owen
14/08/2026
O ddydd Mawrth 1af Medi i ddydd Gwener 18fed Medi, rydym ar agor 08:30–20:00.
O ddydd Sadwrn 19fed Medi i ddydd Sadwrn 12ed Rhagfyr, bydd yr oriau yn ymestyn i 08:30–22:00.
A chofiwch—mae Lefel D ar agor 24/7 drwy’r flwyddyn
Gweler oriau agor y llyfrgell: https://www.aber.ac.uk/cy/library/llyfrgelloedd/opening-hours/
Cliciwch yma i roi cynnig ar y fersiwn newydd o Primo, catalog y llyfrgell!
10/08/2026
https://whelf-aber.primo.exlibrisgroup.com/nde/home?vid=44WHELF_ABW:44WHELF_ABW_NDE&lang=cy
Croesawn eich adborth ar y ffurflen sydd ar gael drwy’r ddolen gyswllt ar hafan y Primo newydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc.
Teithiwch y Byd Drwy Lyfrau
04/08/2026
Dewch i ddarganfod ein detholiad o lyfrau teithio! P’un a ydych yn cynllunio taith o amgylch y DU neu’n mentro ymhellach i ffwrdd, mae ein casgliad yn llawn ysbrydoliaeth a chanllawiau ymarferol i’ch helpu ar eich taith.
Ewch i Lyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar Lawr E a Llawr F Llyfrgell Hugh Owen drwy gydol mis Awst i bori trwy ein harddangosfeydd o lyfrau teithio a dod o hyd i’ch antur fawr nesaf.
Arholiadau Ail-Gynnig Yr Haf
31/07/2026
Mae amserlen yr arholiadau atodol bellach ar gael ar y wefan amserlennu: https://ow.ly/a6GI50Qanas
Cyhoeddi'r ail siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr
28/07/2026
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein hail siaradwyr gwadd ar gyfer y 14eg Gynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr. Bydd yr Athro Ruth Healey a Millie Leach yn ymuno â ni ar gyfer eu sesiwn From tokenistic to authentic: meaningful co-creation with students.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, gweler ein blog. https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/cy/2026/07/23/14eg-gynhadledd-flynyddol-addysg-a-phrofiad-y-myfyrwyr-cyhoeddi-siaradwyr-gwadd-yr-athro-ruth-healey-a-millie-leach/
Oriau agor Llyfrgell Hugh Owen o'r 1af Awst
17/07/2026
Bydd Llyfrgell Hugh Owen ar agor 08:30 - 17:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar gau ar benwythnosau yn ystod mis Awst. Bydd y Llyfrgell ar gau ar Dydd Llun 31ain Awst ar gyfer Gwyl y Banc.
• Bydd Lefel D ar agor 24/7 drwy gydol yr amser
Gwiriwch oriau agor y llyfrgell ar-lein yma: https://www.aber.ac.uk/cy/library/llyfrgelloedd/hughowen/
Llyfrgell, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2020 Ebost: llyfrgell@aber.ac.uk
