Nid yw ein cyllideb yn rhoi'r gallu i ni brynu copïau o lyfr ar gyfer pob myfyriwr ar unrhyw fodiwl neu gwrs penodol. Felly, pan fyddwn yn prynu copïau papur o ddeunydd ar restrau darllen, rydym yn gwneud hynny yn unol â chymhareb a amlinellir yn ein Polisi Rhestr Ddarllen. Ar gyfer testunau hanfodol mae hyn yn gweithio allan fel un copi o lyfr ar gyfer pob 15 myfyriwr ar fodiwl.
Rydym yn monitro'r defnydd o'n llyfrau ac yn cofnodi eitemau lle mae galw sylweddol yn cronni trwy geisiadau, a bydd hyn yn ein sbarduno i brynu copïau ychwanegol. Trwy hyn rydym yn gobeithio gallu ateb y galw am y llyfrau hyn ac ar yr un pryd blaenoriaethu'r defnydd o'n cyllideb gyfyngedig i'r meysydd hynny lle mae ei angen fwyaf.
Gobeithio bod hyn yn amlinellu sut rydym yn caffael deunydd ar gyfer y llyfrgell a pham mae'n rhaid i ni osod terfynau ar yr hyn y gallwn ei brynu, ond rydym yn gobeithio, drwy'r mesurau hyn, a thrwy fonitro'r defnydd o'n casgliadau yn barhaus, y gallwn sicrhau eu bod yn gost-effeithiol ac yn diwallu anghenion dysgu, addysgu ac ymchwil y Brifysgol.