Newyddion a Digwyddiadau

Am y diweddaraf am systemau a gwasanaethau'r Brifysgol, ewch i Statws Gwasanaethau PA

Diweddariad Blackboard fis Mehefin

08/06/2026

Hoffai’r Tîm Addysg Ddigidol dynnu sylw at welliannau yn diweddariad Blackboard fis Mehefin:

• Graddio gyda chyfarwyddiadau
• Ymgysylltiad myfyrwyr â chyhoeddiadau

Am fanylion pellach, gweller ein blog:

Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Mehefin 2026: https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/cy/2026/06/05/beth-syn-newydd-yn-blackboard-mis-mehefin-2026/

Dod o hyd i wybodaeth am fywyd myfyrwyr yn Aber

05/06/2026

Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech roi eiliad o'ch amser i gwblhau'r arolwg byr hwn ynghylch sut rydych chi'n cael gwybod am ddigwyddiadau a gwasanaethau’r brifysgol.

Mae eich adborth yn hynod o bwysig wrth lunio profiad y myfyriwr, ac mae hon yn ffordd wych o leisio’ch barn ar y dull gorau o ddod o hyd i wybodaeth!

Cwblhewch yr arolwg 'dod o hyd i wybodaeth am fywyd myfyrwyr yn Aber' yma: Finding information about student life at Aber – Fill out form

Creu Cyrsiau Blackboard 2026-27

01/06/2026

Mae’r holl gyrsiau ar gyfer 2026-27 wedi cael eu creu ac maent ar gael i staff yn Blackboard.

Am ragor o wybodaeth edrychwch ar ein blog (https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/cy/2026/06/01/creu-cyrsiau-blackboard-2026-27/).

Yn gadael Aber yr haf hwn?

26/05/2026

Efallai eich bod yn meddwl tybed beth sydd angen ichi ei wneud cyn gadael? Dyma dudalen ddefnyddiol gyda'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch: https://faqs.aber.ac.uk/cy/3206

Llyfrgell Promptiau DA

01/05/2026

Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol wedi creu Llyfrgell Promptiau DA. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein blog (https://wordpress.aber.ac.uk/librarian/?p=1943&lang=cy) a’n tudalennau gwe (https://www.aber.ac.uk/cy/library/help/ai/llyfrgell-promptiau-da/).

Cyhoeddi'r Prif Siaradwr: 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr: Dr Hardeep Kaur Basra

13/05/2026

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer ein 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr (8-10 Medi). Bydd Dr Hardeep Kaur Basra o Brifysgol De Montfort yn ymuno â ni ar gyfer prif gyflwyniad a gweithdy.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu eich lle, gweler ein blog: https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/cy/2026/05/13/cyhoeddir-prif-siaradwr-14eg-gynhadledd-addysg-a-phrofiad-y-myfyrwyr-dr-hardeep-kaur-basra/