Newyddion a Digwyddiadau
Am y diweddaraf am systemau a gwasanaethau'r Brifysgol, ewch i Statws Gwasanaethau PA
Oriau agor Llyfrgell Hugh Owen ar gyfer tymor newydd
14/09/2026
O ddydd Sadwrn 19 Medi, bydd Llyfrgell Hugh Owen ar agor 08:30 i 22:00 bob diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor. Mae Lefel D (y llawr gwaelod) ar agor 24/7.
Gwiriwch yr oriau agor y Llyfrgell ar ein calendr ar-lein yma: https://www.aber.ac.uk/cy/library/llyfrgelloedd/hughowen/opening-times---hugh-owen-library/
Croeso i Aberystwyth!
11/09/2026
Dewch i ddarganfod Aberystwyth a'r ardal gyfagos drwy ein casgliadau wedi'u curadu'n arbennig. Yn berffaith ar gyfer cynllunio eich diwrnod allan nesaf neu gamu nôl mewn amser, mae'r arddangosfeydd hyn ar gael drwy gydol mis Medi.
Ewch i Lyfrgell y Gwyddorau Ffisegol neu Loriau E ac F yn Llyfrgell Hugh Owen i edrych arnynt heddiw.
Sesiynau Hyfforddiant Addysg Ddigidol
18/08/2026
Mae ein sesiynau hyfforddi staff ar gyfer semester 1 bellach ar gael ar y system archebu hyfforddiant. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein cofnod blog
Oriau Agor mis Medi yn Llyfrgell Hugh Owen
14/08/2026
O ddydd Mawrth 1af Medi i ddydd Gwener 18fed Medi, rydym ar agor 08:30–20:00.
O ddydd Sadwrn 19fed Medi i ddydd Sadwrn 12ed Rhagfyr, bydd yr oriau yn ymestyn i 08:30–22:00.
A chofiwch—mae Lefel D ar agor 24/7 drwy’r flwyddyn
Gweler oriau agor y llyfrgell: https://www.aber.ac.uk/cy/library/llyfrgelloedd/opening-hours/
Cliciwch yma i roi cynnig ar y fersiwn newydd o Primo, catalog y llyfrgell!
10/08/2026
https://whelf-aber.primo.exlibrisgroup.com/nde/home?vid=44WHELF_ABW:44WHELF_ABW_NDE&lang=cy
Croesawn eich adborth ar y ffurflen sydd ar gael drwy’r ddolen gyswllt ar hafan y Primo newydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc.
Teithiwch y Byd Drwy Lyfrau
04/08/2026
Dewch i ddarganfod ein detholiad o lyfrau teithio! P’un a ydych yn cynllunio taith o amgylch y DU neu’n mentro ymhellach i ffwrdd, mae ein casgliad yn llawn ysbrydoliaeth a chanllawiau ymarferol i’ch helpu ar eich taith.
Ewch i Lyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar Lawr E a Llawr F Llyfrgell Hugh Owen drwy gydol mis Awst i bori trwy ein harddangosfeydd o lyfrau teithio a dod o hyd i’ch antur fawr nesaf.
Arholiadau Ail-Gynnig Yr Haf
31/07/2026
Mae amserlen yr arholiadau atodol bellach ar gael ar y wefan amserlennu: https://ow.ly/a6GI50Qanas
Cyhoeddi'r ail siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr
28/07/2026
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein hail siaradwyr gwadd ar gyfer y 14eg Gynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr. Bydd yr Athro Ruth Healey a Millie Leach yn ymuno â ni ar gyfer eu sesiwn From tokenistic to authentic: meaningful co-creation with students.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, gweler ein blog. https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/cy/2026/07/23/14eg-gynhadledd-flynyddol-addysg-a-phrofiad-y-myfyrwyr-cyhoeddi-siaradwyr-gwadd-yr-athro-ruth-healey-a-millie-leach/
Oriau agor Llyfrgell Hugh Owen o'r 1af Awst
17/07/2026
Bydd Llyfrgell Hugh Owen ar agor 08:30 - 17:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar gau ar benwythnosau yn ystod mis Awst. Bydd y Llyfrgell ar gau ar Dydd Llun 31ain Awst ar gyfer Gwyl y Banc.
• Bydd Lefel D ar agor 24/7 drwy gydol yr amser
Gwiriwch oriau agor y llyfrgell ar-lein yma: https://www.aber.ac.uk/cy/library/llyfrgelloedd/hughowen/
Llyfrgell, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2020 Ebost: llyfrgell@aber.ac.uk
