Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 11 Darlith 2-awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 11 gweithdy 2 awr a DIwtorial termau 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr Arholiad Semester | 70% |
Asesiad Semester | Asesiad Semester Taflenni enghreifftiau i'w cwblhau yn ystod y semester addysgu. | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Arholiad Ailsefyll | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Deall egwyddorion sylfaenol meysydd disgyrchiant ac electrostatig a chymhwyso'r rhain i enghreifftiau rhifiadol o systemau syml.
2. Disgrifio priodweddau sylfaenol defnyddiau deuelectrig, magnetig a rhai sy'n dargludo trydan.
3. Cyfrifo'r grym ar ronyn wedi’i wefru mewn meysydd trydanol a magnetig a disgrifio mudiant gronyn wedi'i wefru mewn maes trydanol unffurf.
4. Cyfrifo potensial system o ronynnau wedi'u gwefru.
5. Disgrifio strwythur a phwrpas gwrthyddion a chynwysyddion.
6. Defnyddio diagramau ffasor, dulliau fector a rhifau cymhlyg i ddadansoddi cylchedau AC.
7. Disgrifio egwyddorion sylfaenol ffiseg atomig, niwclear a gronynnau a chymhwyso'r rhain i enghreifftiau o systemau syml.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn trafod y grymoedd mewn meysydd disgyrchiant ac electrostatig ac yn eu disgrifio yn nhermau'r ddeddf wrthdro sgwâr gydag enghreifftiau darluniadol. Disgrifir hefyd y meysydd a'r potensialau cysylltiedig. Defnyddir gwefr a cherrynt trydanol, meysydd magnetig ac anwythiad electromagnetig i ddefnyddio gweithrediad cylchedau trydanol a phriodweddau deuelectrig a magnetig defnyddiau. Mae'r modiwl hefyd yn darparu rhagarweiniad i'r ffiseg sylfaenol sy'n greiddiol i ffiseg atomig, niwclear a gronynnau.
Nod
Mae'r modiwl yn ystyried yr egwyddorion creiddiol i feysydd disgyrchiant ac electrostatig ac yn cyflwyno magneteg, trydan a chylchedau trydan. Mae hefyd yn cyflwyno cysyniadau sylfaenol mewn ffiseg atomig, niwclear a gronynnau. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau, ac mae'r taflenni enghreifftiau yn cynnwys ymarferion rhifiadol. Mae'r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer modiwlau uwch yn Rhan 2.
Cynnwys
1. Deddfau Kepler.
2. Deddf disgyrchiant Newton.
3. Egni potensial disgyrchiant.
ELECTROSTATEG:
1. Meysydd trydanol a chymwysiadau deddfau Coulomb a Gauss i wefrau trydanol mewn ffurfweddau geometreg gwahanol.
2. Potensial trydanol mewn perthynas â maes trydanol, arwynebau unbotensial.
3. Cynwysyddion, dwysedd egni trydanol a deunyddiau deuelectrig.
MAGNETEG:
1. Meysydd magnetig, dolenni cerrynt a deunyddiau magnetig.
2. Deddfau Biot-Savart ac Ampere wedi'u cymhwyso i geryntau trydanol mewn gwifrau a solenoidau.
3. Anwythiad electromagnetig (Deddfau Faraday a Lenz), hunan anwythiad a dwysedd egni magnetig.
TRYDAN DC:
1. Cerrynt a gwrthiant, Deddf Ohm, gwrthedd, amedrau, foltmedrau.
2. Cylchedau cerrynt union (DC) - gwrthyddion mewn cyfres a pharalel, gwrthiant mewnol, egni a phŵer.
3. Cylchedau rhannu potensial a rheolau Kirchoff.
TRYDAN AC :
1. Ceryntau eiledol (AC) mewn cylchedau gwrtheddol, cynhwysaidd ac anwythaidd.
2. Adweithedd a rhwystriant, effeithiau byrhoedlog. Dadansoddiad cylchedau AC gan ddefnyddio diagramau ffasor, dulliau fector a rhifau cymhlyg.
3. Pŵer ac ongl gwedd. Cylchedau RCL mewn cyfres a pharalel ac amodau cyseiniant.
FFISEG ATOMIG, NIWCLEAR A GRONYNNAU
1. Mas niwclear ac egni clymu.
2. Dadfeiliad ymbelydrol.
3. Gronynnau elfennol, grymoedd sylfaenol a'r model safonol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn amlygu'r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y meysydd ac yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa. |
Datrys Problemau | Caiff sgiliau datrys problemau eu datblygu drwy gydol y modiwl a'u profi mewn aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r pecynnau gwaith cartref electronig wedi eu cynllunio i annog dysgu hunan-gyfeiriedig ac i wella perfformiad. Asesir hwn drwy'r llyfrau graddau ar-lein. |
Rhifedd | Mae gan bob cwestiwn a osodir yn y taflenni enghreifftiau ac arholiadau ffurfiol broblemau rhifiadol. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd y darllen cyfeiriedig a'r pecyn gwaith cartref electronig yn galluogi myfyrwyr i ymestyn eu dealltwriaeth o'r darlithoedd. Caiff hwn ei gyfeirio gan waith cartref ar-lein. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael problemau i'w datrys yn y darlithoedd a bydd hyn yn golygu ymchwil yn y llyfrgell ac yn defnyddio'r rhyngrwyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio pynciau o fewn y modiwl gan ddefnyddio'r rhyngrwyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4