Cyrsiau Datblygu Proffesiynol Parhaus

Dosbarth datblygu proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cyrsiau byr Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) yw’r rhain i’r rhai sydd â diddordeb mewn gwasanaethau archifau, llyfrgelloedd, llywodraethiant a gwybodaeth neu sy’n gweithio yn y meysydd hyn.

Cyrsiau Dysgu o Bell Ar-lein yw’r rhain, er mwyn rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosib i chi i ddod o hyd i amser yn eich bywydau prysur i astudio.

Datblygwyd y cyrsiau i weithwyr proffesiynol yn y meysydd uchod, y mae ganddynt:

  • ddiddordeb bwrdd ym maes pwnc y cwrs
  • modd i ddefnyddio’r rhyngrwyd band eang
  • amser i astudio’r deunyddiau dysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ar-lein.

Ddim yn siŵr a oes gennych amser? Cewch dreulio cyn lleied â 5 awr yr wythnos yn astudio a chwblhau’r cwrs mewn 6 mis, neu astudio am 15 awr yr wythnos a chwblhau’r cwrs mewn 6 wythnos. Neu anelwch am rywle yn y canol. Chi sydd i ddewis.

Mae ein cyrsiau byr Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) yn rhai:

  1. Hyblyg — cewch gynllunio eich amserlen astudio eich hun ac astudio wrth eich pwysau (o fewn cyfnod y Cwrs Byr), a chewch ddewis a ydych am gwblhau elfen asesu ffurfiol y Cwrs Byr sydd â chredydau ynghlwm wrthi ai peidio.
  2. Ycaiff eu hansawdd ei reoli – caiff y cyrsiau eu datblygu, eu golygu a’u llunio gan dîm o arbenigwyr pwnc ac arbenigwyr dysgu o bell, a sicrheir eu hansawdd drwy weithdrefnau adolygu’r Brifysgol a chyrff proffesiynol perthnasol.
  3. Y mae digonedd o gymorth ar gael ar eu cyfer – yn gymorth i’ch astudiaethau ar Gwrs Byr gyda ni mae tîm cefnogi cryf sy’n cynnwys tiwtor eich Cwrs Byr, cynghorwyr sgiliau astudio sy’n cynnig cymorth drwy wasanaeth sgiliau ar-lein, ystod helaeth y Brifysgol o adnoddau ar-lein, a sawl fforwm ar-lein sy’n cwrdd i sgwrsio â dysgwyr ar Gyrsiau Byr ac eraill sy’n dysgu o bell.
  4. Seiliedig ar waith — mae’r Cyrsiau Byr yn berthnasol o safbwynt proffesiynol a bwriedir iddynt ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ar gyfer gweithleoedd gwybodaeth arbenigol. Drwy gwblhau gweithgareddau ac ymarferion y Cwrs Byr cewch gyfle i adfyfyrio ar eich dysgu o safbwynt eich anghenion yn y gweithle.
  5. Rhyngweithiol – er eich bod yn astudio wrth eich pwysau, yn ystod eich astudiaethau byddwch yn cwblhau gweithgareddau hunan-adfyfyriol i asesu eich dealltwriaeth o’r pwnc, ac yn ymuno â thrafodaethau ac ymarferion ar-lein.