Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CB25420
Module Title
Rheolaeth Adnoddau Dynol
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Adroddiad  2,500 gair  50%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  2 Awr  50%
Supplementary Assessment Adroddiad  Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. 2,500 gair  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  2 Awr  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Archwilio datblygiad hanesyddol rheoli adnoddau dynol, fel disgyblaeth academaidd ac o fewn sefydliadau.

2. Lleoli ymagweddau sefydliadau tuag at recriwtio, dethol a hyfforddi o fewn cyd-destun ehangach cysylltiadau diwydiannol.

3. Cloriannu’n feirniadol strwythurau ar gyfer rheoli perfformiad a gwobrwyo gweithwyr, gan gyfeirio at eu goblygiadau o ran cymell ac ysgogi gweithwyr.

4. Asesu’n feirniadol ymagweddau sefydliadau tuag at iechyd a diogelwch gweithwyr, a materion moesegol megis lles a chynaliadwyedd.

5. Cloriannu pwysigrwydd arweinyddiaeth mewn sefydliad.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn edrych ar gysyniadau allweddol Rheoli Adnoddau Dynol a ddefnyddir i arwain, ysgogi, rheoli a gwobrwyo pobl mewn sefydliadau cyfoes.

Content

- Strategaeth gorfforaethol a Rheoli Adnoddau Dynol strategol
- Canlyniadau Rheoli Adnoddau Dynol a rheoli llinell
- Cynllunio’r gweithlu ac amrywioldeb, recriwtio a dethol
- Rheoli perfformiad a gwerthuso, datblygu adnoddau dynol- Gwobrau ac anghydraddoldeb, cysylltiadau llafur a chyd-fargeinio
- Moeseg, iechyd a diogelwch gweithwyr, lles gweithwyr, cynaliadwyedd
- Arweinyddiaeth ac ysgogi
- Rheoli Adnoddau Dynol a diwylliant sefydliadol.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Dadansoddi adroddiadau rhifyddol perthnasol, yn enwedig wrth wneud gwaith cwrs
Communication Cyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio amryw ddulliau a fformatau adrodd.
Improving own Learning and Performance Bydd y myfyrwyr yn dangos ymwybyddiaeth o’u harddulliau dysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion personol, gan nodi’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu. Dangos hunanymwybyddiaeth a rheoli’r dasg o gwblhau gwaith cwrs a datblygu sgiliau ymchwil.
Information Technology Trwy ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol o wahanol ffynonellau, defnyddio sgiliau prosesu geiriau wrth gwblhau gwaith cwrs, datblygu sgiliau PowerPoint a sgiliau cyflwyno.
Personal Development and Career planning Nodi arddulliau dysgu, datblygu meddwl creadigol, trafod rôl y swyddogaeth AD o ran recriwtio graddedigion.
Problem solving Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i faterion yn ymwneud â datrys problemau a bydd y myfyrwyr yn gweithio drwyddynt ym mhob rhan o’r modiwl. Disgwylir iddynt nodi a mynd i’r afael â’r problemau a’r materion trwy gydol y cwrs, ac fe’u hanogir i ehangu eu ffiniau presennol i ateb y cwestiynau hyn mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.
Research skills Bydd gofyn i’r myfyrwyr baratoi aseiniad unigol wedi’i seilio ar ddata a gwybodaeth y bydd yn rhaid iddynt eu casglu ynghyd, gan drefnu’r holl wybodaeth a gasglwyd yn rhesymegol mewn dogfen ysgrifenedig. Bydd angen i’r myfyrwyr ddangos eu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a thiwtorialau, yn ogystal ag yn eu hymarferion grŵp.
Subject Specific Skills Gallu lleoli swyddogaeth Rheoli Adnoddau Dynol o fewn y sefydliad a’r amgylchedd busnes ehangach.
Team work Bydd y seminarau yn cynnwys ymarferion grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 5