Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG28000
Teitl y Modiwl
Cynhyrchu a Rheoli Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr  2 Awr  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr  2 Awr  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu  Taflen ffeithiau (fact sheet) yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu  Taflen ffeithiau (fact sheet) yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso cyfyngiadau biolegol a ffisegol ar gynhyrchiant da byw er mwyn cynhyrchu da byw yn gynaliadwy

Ymgymryd â chasglu data allweddol ar gyfer rheoli da byw

Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw i adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd

Cymhwyso gwybodaeth ymchwil er mwyn gwella systemau cynhyrchu da byw

Arddangos gwybodaeth mewn cof am egwyddorion biolegol a rheolaethol sylfaenol cynhyrchu da byw

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, cig eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant da byw, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.

Cynnwys

Cynhyrchu a rheoli o fewn y systemau canlynol
Cig Eidion
Defaid
Llaeth
Moch

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol.
Datrys Problemau Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu.
Rhifedd Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau.
Sgiliau pwnc penodol Ymgymryd â chasglu data allweddol ar gyfer rheoli da byw
Sgiliau ymchwil Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5