Dulliau Ymchwil Meintiol
- Cod y Modiwl
- SC21310
- Teitl y Modiwl
- Dulliau Ymchwil Meintiol
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Judith Roberts
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
PS11320 neu SC11320
Students must have taken either PS11320 or SC11320 - Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Hanna Binks
- Dr Saffron Passam
- Miss Alexandra Brookes
- Dr Victoria Wright
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad Ymchwil: 2000 o eiriau | 70% |
| Asesiad Semester | Cwis: 0.5 Awr Cwis MCQ .5 Awr | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Cwis: 0.5 Awr Cwis MCQ .5 Awr | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Ymchwil: 2000 o eiriau | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Casglu data meintiol gan ddefnyddio offer, dulliau neu dechnegau priodol
- Dewis a chymhwyso dadansoddiadau ystadegol priodol at setiau data
- Dewis a chymhwyso gwybodaeth am gynlluniau ymchwil priodol er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau ymchwil
- Dod i gasgliadau yng ngoleuni canlyniadau dadansoddiadau ystadegol
- Rhannu canlyniadau dadansoddiadau ystadegol
- Dangos eich bod yn gallu gweithio mewn ffordd foesegol
Disgrifiad cryno
Gan ychwanegu at y sgiliau a'r ddealltwriaeth a ddatblygwyd yn eich blwyddyn astudio gyntaf, bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddysgu rhagor o sgiliau ymarferol er mwyn datblygu cynlluniau ymchwil meintiol a dewis a chymhwyso ffurfiau priodol ar ddadansoddiadau ystadegol i fynd i'r afael â chwestiynau ymchwil o ddiddordeb seicolegol.
Cynnwys
Egwyddorion, athroniaeth a moeseg mewn gwaith ymchwil meintiol
Ymchwilio i ddata: Mesuriad, mathau ar newidion, graddfeydd, gwall mesur ac ystadegol, dosbarthu, tybiaethau ystadegol, dibynadwyedd a dilysrwydd
Ymchwilio i berthnasau a rhagweld newidion: Cydberthynas, atchweliad llinol syml, atchweliad lluosog
Ymchwilio i'r gwahaniaethau rhwng grwpiau/amodau: Cynlluniau rhyng-gyfranwyr, o fewn cyfranwyr a chynlluniau cymysg a ffactorol
Ymchwilio i ddata categorïaidd
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn cydweithio i gynllunio a chynnal astudiaeth o ffenomena seicolegol ar raddfa fechan. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau i rannu canlyniadau dadansoddiadau ystadegol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddatrys problemau ymarferol sy'n ymwneud â chynllunio a dadansoddi ymchwil. Rhoddir pwyslais ar weithredoli cynlluniau ymchwil a dewis ffurfiau priodol ar ddadansoddiadau. |
| Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn datblygu rhagor o sgiliau i ddefnyddio meddalwedd arbenigol i adolygu, i fodelu ac i ddadansoddi data rhifol. |
| Myfyrdod | Mae sesiynau ymarferol yn gyfle i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn gallu cymhwyso'r wybodaeth sydd ganddynt am brofion ystadegol at ddata seicolegol. Bydd myfyrwyr yn gallu monitro’u perfformiad eu hunain drwy ddefnyddio'r adnoddau hunan-wirio i arwain eu datblygiad. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu rhagor ar eu sgiliau ymchwil drwy ddangos eu bod yn gallu gweithio mewn ffordd foesegol a'u bod yn gallu dewis y casgliad cywir o ddata ymchwil ynghyd â'r offer dadansoddi cywir. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Psychology,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Penglais, Aberystwyth,
01970 628444 : +44 : +44 (0)1970 622021
psychology@aber.ac.uk: psychology@aber.ac.uk
