Meincnodi

Er mwyn helpu i gadw ein targedau’n uchelgeisiol ac yn realistig, rydym yn meincnodi ein perfformiad yn erbyn prifysgolion a chanddynt yr un genhadaeth â ni – ceisio cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil a dysgu a darparu profiad gyda’r gorau yn y byd i’r myfyrwyr.

Rydym wedi dewis yn ofalus y sefydliadau yr ydym yn meincnodi ein perfformiad yn eu herbyn, a lle bo hynny’n bosib, bwriadwn i’n Hathrofeydd a’n hadrannau Gwasanaeth Proffesiynol feincnodi eu perfformiad yn erbyn pob un neu rai o’r prifysgolion hyn fel y bo’n briodol.

I gael gwybodaeth am y grŵp o brifysgolion meincnodi, defnyddiwn gronfa ddata HEIDI (Cronfa Ddata Gwybodaeth Addysg Uwch i Sefydliadau). Mae’n darparu data cyfunol ar lefel sefydliadau. Mae HEIDI ar gael i bob aelod o’r staff yn Aberystwyth ei defnyddio – cysylltwch â Debbie Prysor i gofrestru. Fodd bynnag, mae’r Swyddfa Gynllunio’n rhoi cryn dipyn o ddata HEIDI ar ei dangosfyrddau Dangosyddion Perfformiad Allweddol a dulliau dadansoddi eraill.