Diwrnod Iechyd a Lles i'r staff - Gaeaf 2025

Llun awyrol o gampws Prifysgol Aberystwyth

Diwrnod iechyd a lles i hyrwyddo a chefnogi lles corfforol a meddyliol y staff.

Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025, 9.30yb - 3.00yp
Ystafelloedd Cynadledda Medrus

  • Dewch i gwrdd â gwasanaethau allweddol a dysgu am y gwahanol gymorth ac adnoddau ar gyfer iechyd a lles sydd ar gael i’r staff, yn y Brifysgol ac yn allanol.
  • Dysgwch sut i gael mynediad at yr armyw o gefnogaeth sydd ar gael i chi pan fo angen (e.e., Rhaglen Cymorth i Weithwyr).
  • Meithrin ymwybyddiaeth a nodi strategaethau ar gyfer gwella iechyd corfforol, iechyd meddwl a meithrin gwytnwch.
  • "Gwybod eich rhifau" profwch eich pwysedd gwaed a’ch BMI a chael gwybodaeth a chyngor.
  • Deall pwysigrwydd meithrin arferion sy'n hybu iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol yn y tymor hir.

Ffair Iechyd Da (09.30yb - 3.00yp)

Arddangoswr Gwybodaeth am y stondin
Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Dewch i gwrdd â'r tîm a dysgu am yr ystod o bolisïau, adnoddau a rhaglenni sydd â'r nod o hybu iechyd, lles a datblygiad personol y gweithwyr.

Adnodd Adrodd a Chymorth i fyfyrwyr a staff

Dewch i gwrdd â’r Tîm Cymorth Gwrth-aflonyddu a Thrais i ddysgu mwy am y system Adrodd a Chymorth i fyfyrwyr a staff - platfform ar-lein diogel a chyfrinachol i roi gwybod am achosion o gamymddwyn rhywiol, bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu neu droseddau casineb.

Adran y Gwyddorau Bywyd: Perfformiad Chwaraeon a Phrofion Iechyd

Y cyfle i gael asesiad o gyfansoddiad y corff ac i ddysgu am y gwasanaethau masnachol sydd yn cael eu cynnig yn Adeilad Carwyn James, gan cynnwys: Asesiad o’r cynhwysedd aerobig, pennu’r trothwy lactig, asesiad cynhwysfawr o chyfansoddiad y corf a'ch pecyn iechyd.

Canolfan Addysg Gofal Iechyd 

Gewch gwrdd â'r tîm nyrsio yn y Brifysgol, sy'n nyrsys cofrestredig o amryw o gefndiroedd arbenigol. Byddant yn hapus i gofnodi eich pwysedd gwaed, rhannu rhai o’n hadnoddau, a sgwrsio am ffyrdd o gefnogi eich gwydnwch a’ch dewisiadau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Canolfan Chwaraeon

Dewch i gwrdd â'r tîm a chael gwybodaeth am yr ystod o ddosbarthiadau, cyfleusterau, a phecynnau aelodaeth sydd ar gael - gydag arddangosiad o feic sbinio a'r cyfle i gymryd rhan mewn heriau ar y diwrnod.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Dewch i gwrdd â thîm Canolfan y Celfyddydau a chlywed am eu rhaglen amrywiol o arddangosfeydd, perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau cymunedol.

Cariad Pet Therapy
Cymorth a Lles Myfyrwyr

Dewch i gwrdd â staff o bob rhan o’r tîmau Cymorth a Lles Myfyrwyr i glywed sut mae ein Rhaglen ‘Cefnogi ein Myfyrwyr gyda’n Gilydd’ wedi’i chynllunio i roi gwybodaeth i staff am faterion sy’n ymwneud â myfyrwyr fel y gallant ddarparu cymorth ystyrlon a gwneud atgyfeiriadau effeithiol, gwybodus, pan fo angen.

Dysgu Cymraeg

Dewch i gwrdd â staff o’r timoedd Cymorth a Lles Myfyrwyr i glywed am sut mae ein Rhaglen ‘Cefnogi ein Myfyrwyr gyda’n Gilydd’ wedi’i llunio i roi gwybodaeth i’r staff am faterion sy’n berthnasol i’r myfyrwyr fel y gallai’r staff ddarparu cefnogaeth ystyrlon a chyfeirio myfyrwyr ymlaen i wasanaethau eraill pan fo angen, mewn ffordd effeithiol wedi’i seilio ar wybodaeth gadarn.

Dysgu Gydol Oes

Gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael sy'n addas ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, ac arddangosiadau wrth y stondin trwy gydol y dydd.

Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes AM DDIM i holl aelodau staff Prifysgol Aberystwyth - Dod o hyd i gwrs i chi.

Gorsaf bwyd iach

Taleb 25% o ostyngiad i’r Neuadd Fwyd i'r rhai sy'n dod draw

Ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/hospitality/ am wybodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael am fwyd iach, prydau gwerth am arian, hyrwyddiadau ar gynhyrchion di-glwten, alergenau, bwydlenni

Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru a New Pathways

Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru yn darparu gwasanaethau cymorth cynhwysfawr i bawb sy'n profi neu'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu cam-drin Rhywiol a Thrais.

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD)

Gwybodaeth a chymorth i unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phroblem cyffuriau neu alcohol eu hunain neu sy'n poeni am sut mae rhywun arall yn defnyddio cyffuriau a/neu alcohol. 

HAHAV

Elusen y Brifysgol eleni, - gwybodaeth am yr elusen, cyfleoedd i wirfoddoli, diddordebau ymchwil a'u cyfleuster byw yn dda.

Health Assured | Wisdom Wellbeing

Darparwr Rhaglen Cymorth i Weithwyr - gwybodaeth am y gwasanaeth cyfrinachol 24/7 am ddim a’r gwasanaeth cwnsela, gwybodaeth a chyngor sydd ar gael i’r staff.

Heddlu Dyfed Powys

 

Hyfforddiant Iechyd y GIG

Mae Hyfforddiant Iechyd y GIG yn cynnig partneriaeth sy'n canolbwyntio ar y claf, wedi'i chynllunio i rymuso unigolion i wella eu hiechyd a'u lles eu hunain trwy ddysgu gwybodaeth ac ennill sgiliau a hyder i hunanreoli a newid ymddygiad.

Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Dewch i gwrdd â'r tîm a chlywed am ergonomeg yn y swyddfa (dangosiad o sut i sicrhau bod dyluniad y gadair ac uchder y weithfan yn gywir) ac am y datblygiadau a’r prosiectau sydd ar y gweill o ran yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Rhwydweithiau staff

Dewch i gwrdd ag aelodau o amryw rwydweithiau a grwpiau staff, a chlywed am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau sydd ar ddod, a sut i gymryd rhan.

Tîm Atal Heintiau Cymunedol Integredig Hywel Dda

Tîm Diogelu Iechyd yn darparu gwybodaeth am les, hydradu, a chadw'n iach wrth atal heintiau.

Tîm Estyn Allan Datblygu Cymunedol Hywel Dda (CDOT)

Mae CDOT yn darparu gwybodaeth am iechyd sy'n helpu unigolion i wneud dewisiadau am eu hiechyd a'u lles ar sail gwybodaeth gadarn (gan gynnwys rhoi'r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol, imiwneiddio a brechiadau, a bwyta a byw'n iach).

Undebau Llafur

UCU, UNSAIN ac UNITE - gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, aelodaeth, a'r manteision a'r gwasanaethau.

Sgyrsiau a gweithdai Iechyd a Lles (09.30yb - 3.00yp)

Amser

Sgwrs/ Gweithdy

9.30yb - 10.20yb

i'w gadarnhau

10.30yb - 11.20yb

i'w gadarnhau

11.30yb - 12.20yp

i'w gadarnhau

1.00yp - 2.00yp

i'w gadarnhau

2.10yp - 3.00yp

i'w gadarnhau

Cariad Pet Therapy (09.30yb - 3.00yp)

Medrus 2