Cymorth Menopos

Mae stigma o gwmpas y menopos ers tro byd, sy’n arwain at gywilydd ac embaras ac sy’n golygu bod llawer o bobl yn dioddef yn dawel. Yn ffodus, ceir symudiad bellach at “newid” er gwell, a ddechreuwyd yn benodol gyda rhaglenni dogfen diweddar Davina McCall ar Sianel 4 yn amlygu’r problemau mae menywod yn eu hwynebu a dod â’r menopos i’r parth cyhoeddus yn llawn. 

Holiadur

Holiadur Peri/Ôl/Fenopos: Dr Helen Marshall (IBERS) hem@aber.ac.uk

Mae gen i ddiddordeb ym marn a phrofiadau HOLL staff PA (beth bynnag eu rhyw, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd) yn ymwneud â’r peri-/ôl-/fenopos. Mae stigma o gwmpas y menopos ers tro byd, sy’n arwain at gywilydd ac embaras ac sy’n golygu bod llawer o bobl yn dioddef yn dawel. Yn ffodus, ceir symudiad bellach at “newid” er gwell, a ddechreuwyd yn benodol gyda rhaglenni dogfen diweddar Davina McCall ar Sianel 4 yn amlygu’r problemau mae menywod yn eu hwynebu a dod â’r menopos i’r parth cyhoeddus yn llawn. Fel rhan o fy ymgyrch i wella’r cymorth mae PA yn ei ddarparu i fenywod peri-/ôl-/fenopos rwyf i wedi creu holiadur na ddylai gymryd mwy na 15 munud i’w gwblhau. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn sbario’r amser i gwblhau’r arolwg drwy glicio’r ddolen isod:

https://aber.onlinesurveys.ac.uk/au-menopos-survey-v1

Grŵp Cymorth

Rydym ni wedi sefydlu grŵp cymorth peri-/ôl-/fenopos PA i’r holl staff a myfyrwyr; bydd hwn yn gyfle i rannu profiadau a chynnig amgylchedd diogel a chefnogol.

Grŵp Cymorth Fenopos ar Microsoft Teams

Cyfarfodydd yn bersonol:

  • Dydd Mercher 14 Mehefin, 15:00-16:00, Medrus 2
  • Dydd Mercher 12 Gorffennaf, 15:00-16:00, Medrus 2
  • Dydd Mercher 9 Awst, 15:00-16:00, Medrus 2
  • Dydd Mercher 13 Medi, 15:00-16:00, Medrus 3
  • Dydd Mercher 18 Hydref - cyfarfod estynedig i ddathlu Diwrnod Menopos y Byd, 14:00-16:00, Medrus 3
  • Dydd Mercher 15 Tachwedd, 15:00-16:00, Medrus 3
  • Dydd Mercher 13 Rhagfyr, 15:00-16:00, Medrus 3

Cysylltu

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â ni’n ddi-oed.