Diwrnod Iechyd a Lles i'r staff - 6 Mai 2026

Llun awyrol o gampws Prifysgol Aberystwyth

Diwrnod iechyd a lles i hyrwyddo a chefnogi lles corfforol a meddyliol y staff.

Dydd Mercher 6 Mai 2026, 9.30yb - 3.00yp
Ystafelloedd Cynadledda Medrus

  • Dewch i gwrdd â gwasanaethau allweddol a dysgu am y gwahanol gymorth ac adnoddau ar gyfer iechyd a lles sydd ar gael i’r staff, yn y Brifysgol ac yn allanol.
  • Dysgwch sut i gael mynediad at yr armyw o gefnogaeth sydd ar gael i chi pan fo angen (e.e., Rhaglen Cymorth i Weithwyr).
  • Meithrin ymwybyddiaeth a nodi strategaethau ar gyfer gwella iechyd corfforol, iechyd meddwl a meithrin gwytnwch.
  • "Gwybod eich rhifau" profwch eich pwysedd gwaed a’ch BMI a chael gwybodaeth a chyngor.
  • Deall pwysigrwydd meithrin arferion sy'n hybu iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol yn y tymor hir.

Rhaglen

Ffair Iechyd Da (9.30yb - 3.00yp)

Arddangoswr Gwybodaeth am y stondin
Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Dewch i gwrdd â'r tîm a dysgu am yr ystod o bolisïau, adnoddau a rhaglenni sydd â'r nod o hybu iechyd, lles a datblygiad personol y gweithwyr.

Adnodd Adrodd a Chymorth i fyfyrwyr a staff

Dewch i gwrdd â’r Tîm Cymorth Gwrth-aflonyddu a Thrais i ddysgu mwy am y system Adrodd a Chymorth i fyfyrwyr a staff - platfform ar-lein diogel a chyfrinachol i roi gwybod am achosion o gamymddwyn rhywiol, bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu neu droseddau casineb.

Adran seicoleg: Ymchwil Lles a chymwysiadau

Dewch i gwrdd ag ymchwilwyr sy'n arbenigo ym maes ymchwil lles. Cymerwch ran neu dysgwch fwy am ein hymchwil sy'n edrych ar ymwybyddiaeth ofalgar a cherdded ym myd natur, gan ddeall ffactorau unigol sy'n ffurfio lles ac Astudiaeth Seicoleg Hydredol Aberystwyth – ASHA.

Adran y Gwyddorau Bywyd: Perfformiad Chwaraeon a Phrofion Iechyd

Y cyfle i gael asesiad o gyfansoddiad y corff ac i ddysgu am y gwasanaethau masnachol sydd yn cael eu cynnig yn Adeilad Carwyn James, gan cynnwys: Asesiad o’r cynhwysedd aerobig, pennu’r trothwy lactig, asesiad cynhwysfawr o chyfansoddiad y corf a'ch pecyn iechyd.

Canolfan Addysg Gofal Iechyd 

Gewch gwrdd â'r tîm nyrsio yn y Brifysgol, sy'n nyrsys cofrestredig o amryw o gefndiroedd arbenigol. Byddant yn hapus i gofnodi eich pwysedd gwaed, rhannu rhai o’n hadnoddau, a sgwrsio am ffyrdd o gefnogi eich gwydnwch a’ch dewisiadau iechyd.

Canolfan Chwaraeon

Dewch i gwrdd â'r tîm a chael gwybodaeth am yr ystod o ddosbarthiadau, cyfleusterau, a phecynnau aelodaeth sydd ar gael - gydag arddangosiad o feic sbinio a'r cyfle i gymryd rhan mewn heriau ar y diwrnod.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Dewch i gwrdd â thîm Canolfan y Celfyddydau a chlywed am eu rhaglen amrywiol o arddangosfeydd, perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau cymunedol.

Cymorth a Lles Myfyrwyr

Dewch i gwrdd â staff o bob rhan o’r tîmau Cymorth a Lles Myfyrwyr i glywed sut mae ein Rhaglen ‘Cefnogi ein Myfyrwyr gyda’n Gilydd’ wedi’i chynllunio i roi gwybodaeth i staff am faterion sy’n ymwneud â myfyrwyr fel y gallant ddarparu cymorth ystyrlon a gwneud atgyfeiriadau effeithiol, gwybodus, pan fo angen.

Dysgu Cymraeg

Dewch i gwrdd â staff o’r timoedd Cymorth a Lles Myfyrwyr i glywed am sut mae ein Rhaglen ‘Cefnogi ein Myfyrwyr gyda’n Gilydd’ wedi’i llunio i roi gwybodaeth i’r staff am faterion sy’n berthnasol i’r myfyrwyr fel y gallai’r staff ddarparu cefnogaeth ystyrlon a chyfeirio myfyrwyr ymlaen i wasanaethau eraill pan fo angen, mewn ffordd effeithiol wedi’i seilio ar wybodaeth gadarn.

Dysgu Gydol Oes

Gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael sy'n addas ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, ac arddangosiadau wrth y stondin trwy gydol y dydd.

Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes AM DDIM i holl aelodau staff Prifysgol Aberystwyth - Dod o hyd i gwrs i chi.

Gorsaf bwyd iach

Taleb 15% o ostyngiad i’r Neuadd Fwyd i'r rhai sy'n dod draw

Ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/hospitality/ am wybodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael am fwyd iach, prydau gwerth am arian, hyrwyddiadau ar gynhyrchion di-glwten, alergenau, bwydlenni

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD)

Gwybodaeth a chymorth i unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phroblem cyffuriau neu alcohol eu hunain neu sy'n poeni am sut mae rhywun arall yn defnyddio cyffuriau a/neu alcohol. 

Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Heddlu Dyfed Powys

 

Hyfforddiant Iechyd y GIG

Mae Hyfforddiant Iechyd y GIG yn cynnig partneriaeth sy'n canolbwyntio ar y claf, wedi'i chynllunio i rymuso unigolion i wella eu hiechyd a'u lles eu hunain trwy ddysgu gwybodaeth ac ennill sgiliau a hyder i hunanreoli a newid ymddygiad.

Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd

Dewch i gwrdd â'r tîm sydd yma i'ch cefnogi, nid i'ch plismona! Cynyddwch eich ymwybyddiaeth o risgiau dyddiol yn y gweithle ynghyd a dewisiadau diogelu. Rhowch gynnig ar y cwis "Risg a Gwobr"

Park Run Aberystwyth

Parkrun Aberystwyth a parkrun ieuenctid Aberystwyth: cyfleoedd i gymryd rhan (cerdded/rhedeg) a gwirfoddoli.

Rhwydweithiau staff

Dewch i gwrdd ag aelodau o amryw rwydweithiau a grwpiau staff, a chlywed am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau sydd ar ddod, a sut i gymryd rhan.

Tîm Estyn Allan Datblygu Cymunedol Hywel Dda (CDOT)

Mae CDOT yn darparu gwybodaeth am iechyd sy'n helpu unigolion i wneud dewisiadau am eu hiechyd a'u lles ar sail gwybodaeth gadarn (gan gynnwys rhoi'r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol, imiwneiddio a brechiadau, a bwyta a byw'n iach).

Undebau Llafur

UCU, UNSAIN ac UNITE - gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, aelodaeth, a'r manteision a'r gwasanaethau.

Sgyrsiau a gweithdai Iechyd a Lles (9.30yb - 3.00yp)

Rhaglen o sgyrsiau a gweithdai i'w chynnal yn Medrus 3, Medrus 4 ac ar-lein

Amser

Sgwrs/ Gweithdy

Lleoliad

9.30yb - 10.20yb

Your Employee Assistance Programme | Cofrestrwch yma

Mohammed Khan - HA | Llesiant Doethineb

Dewch i gwrdd â'ch darparwr Rhaglen Cymorth i Weithwyr newydd, HA | Llesiant Doethineb, a fydd yn eich cyflwyno a'ch tywys trwy'r gefnogaeth, yr arweiniad a'r gwasanaethau cyfrinachol 24/7 sydd ar gael i chi a'ch teulu uniongyrchol.

 

Medrus 3

Sesiwn ar-lein drwy Teams

9.50yb - 10.30yb

Caring for self in relationship with others | Cofrestrwch yma

Alison Mackiewicz, Uwch Darlithydd mewn Seicoleg & Martine Robson, Darlithydd mewn Seicoleg

Gan ddefnyddio offer a modelau Dadansoddi Rhyngweithredol, sef math o seicotherapi, byddwn yn dangos sut, wrth ddod yn fwy hunanymwybodol, y gallwch fynd i'r afael â'ch anghenion meddyliol a chorfforol eich hun, yn enwedig yn eich perthynas ag aelodau staff ac eraill. Trwy ddeall y ddeinameg sy’n sail i ryngweithio ag eraill, gall pobl gael goleuni pellach ar yr hyn sydd wrth wraidd problem(au) a gweithio tuag at eu datrys. O ddydd i ddydd, mae Dadansoddi Rhyngweithredol yn cynnig cyfoeth o fanteision a all effeithio'n gadarnhaol ar agweddau personol a phroffesiynol eich bywyd. Bydd hwn yn weithdy ymarferol, sy'n cynnwys esboniad byr o fodelau Dadansoddi Rhyngweithredol, ac yna yn eu rhoi ar waith mewn grwpiau bach (os bydd amser yn caniatáu).

Amcanion Dysgu Allweddol (KLOs): Byddwch yn dysgu sut i sylweddoli beth sy'n siapio eich cyfathrebu a rhyngweithiadau eich hun a phobl eraill; Trwy eich helpu i ddod yn hunanymwybodol mae'n creu opsiynau a'r posibilrwydd o wneud pethau'n wahanol; Trwy eich helpu i ennill a chynnal annibyniaeth; Gallwch ddeall ymddygiad y gwelwch o'ch cwmpas yn well a'i roi mewn cyd-destun ehangach.

Medrus 4

10.30yb - 11.20yb

‘Back Pain Myths & Facts – Do We Really Know Anything?’ | Cofrestrwch yma

Hedd Piper, Clinig Corff Ystwyth

Mae’r thema gyffredinol yn seiliedig ar rai o’r camsyniadau cyffredin – a’r rhai mwyaf digymorth – sydd gennym ynghylch poen cefn. Bydd y sgwrs yn ymdrin â rhywfaint o’r ymchwil mwy diweddar ar boen cefn isaf yn ogystal â darparu rhai negeseuon defnyddiol i’w cymryd adref i’r mynychwyr a gorffen gyda Chwestiynau ac Atebion.

Medrus 3

11.00yb - 12.00yp

Sesiwn ffeltio â nodwyddau | Cofrestrwch yma (y 12 cyntaf gaiff gofrestru) LLAWN

Charlie Kenobi, Tiwtor Dysgu Gydol Oes: Celf a Dylunio

Cyfle i chi dysgu sylfeini ffeltio â nodwyddau.

Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes AM DDIM i holl aelodau staff Prifysgol Aberystwyth - Chwiliwch am gwrs addas i chi.

Medrus 4

11.30yb - 12.20yp

Introduction to the Smart Home Lab | Cofrestrwch yma

Patricia Shaw, Uwch Darlithydd mewn Cyfrifiadureg

Bydd y Labordy Cartref Clyfar yn debyg i gartref bob dydd, gydag ystafell fyw, cegin, ystafell ymolchi ac ystafelloedd gwely, ond bydd hefyd wedi'i gyfarparu â synwyryddion, cynorthwywyr roboteg a chysylltedd llawn.

Bydd ymchwilwyr yn gallu profi pethau fel technoleg byw â chymorth i'r rhai sydd â phroblemau symudedd, dyfeisiau sy'n cael eu hactifadu gan lais, cynnal archwiliadau o bell gan feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ac archwilio sut y gall robotiaid a realiti estynedig gynorthwyo pobl yn y cartref.

Ymhlith y dyfeisiau sydd eisoes wedi'u hadeiladu ar gyfer y cartref mae cadair olwyn glyfar, sugnwr llwch ymreolus, braich roboteg symudol, a chath gydymaith o'r enw “Picsel”.

Bydd yr Adran Gyfrifiadureg ynghyd a'r Adran Seicoleg yn defnyddio'r Labordy Cartref yn bennaf, ond y nod tymor hir yw anelu at agor y drysau ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol fel astudiaethau i edrych ar reoli ynni neu ansawdd aer.

Cofrestrwch yma.

Medrus 3

1.00yp - 2.00yp

Sesiwn ffeltio â nodwyddau | Cofrestrwch yma (y 12 cyntaf gaiff gofrestru) LLAWN

Charlie Kenobi, Tiwtor Dysgu Gydol Oes: Celf a Dylunio

Cyfle i chi dysgu sylfeini ffeltio â nodwyddau.

Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes AM DDIM i holl aelodau staff Prifysgol Aberystwyth - Chwiliwch am gwrs addas i chi.

Medrus 4

2.10yp - 3.00yp

Resilience in the Workplace | Cofrestrwch yma

Ian Archer, Swyddog Datblygu Sgiliau

Mewn amgylchedd gwaith academaidd cyfnewidiol, mae gwydnwch ddim yn unig yn rhywbeth da-i-gael mae'n hanfodol ar gyfer cynnal lles. Mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn anelu at eich galluogi i feddwl am sgiliau ymarferol ar gyfer gweithio o dan bwysau a llywio heriau gweithle gyda mwy o hyder.

Medrus 3

Cŵn Cymorth Cariad

Medrus 2

Dewch i gwrdd â Cŵn Cymorth Cariad - cŵn cymorth a'u perchnogion gwirfoddol - lledfu straen wrth gael dêt 'da ci! Mae Cŵn Cymorth Cariad yn creu cysylltiadau cydsyniol rhwng bodau dynol a chŵn er lles i'w gilydd.

Mi fydd Cŵn Cymorth Cariad yn yr achlysur ar yr amserau canlynol:

10.00 - 11.30 - Milo a Jackie

13.30 - 15.00 - Thor a Jo

Taith Labordy Cartref Clyfar gyda Dr Patricia Shaw (gyfyngiedig i'r 10 cofrestriad cyntaf)

1.30yp -2.00yp LLAWN

2.00yp -2.30yp | Cofrestrwch yma

[Gyfyngiedig i 10 person ar bob daith]

Bydd y Labordy Cartref Clyfar yn debyg i gartref bob dydd, gydag ystafell fyw, cegin, ystafell ymolchi ac ystafelloedd gwely, ond bydd hefyd wedi'i gyfarparu â synwyryddion, cynorthwywyr roboteg a chysylltedd llawn.

Bydd ymchwilwyr yn gallu profi pethau fel technoleg byw â chymorth i'r rhai sydd â phroblemau symudedd, dyfeisiau sy'n cael eu hactifadu gan lais, cynnal archwiliadau o bell gan feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ac archwilio sut y gall robotiaid a realiti estynedig gynorthwyo pobl yn y cartref.

Ymhlith y dyfeisiau sydd eisoes wedi'u hadeiladu ar gyfer y cartref mae cadair olwyn glyfar, sugnwr llwch ymreolus, braich roboteg symudol, a chath gydymaith o'r enw “Picsel”.

Bydd yr Adran Gyfrifiadureg ynghyd a'r Adran Seicoleg yn defnyddio'r Labordy Cartref yn bennaf, ond y nod tymor hir yw anelu at agor y drysau ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol fel astudiaethau i edrych ar reoli ynni neu ansawdd aer.

Cynhelir dau taith ar y diwrnod – pob un yn para hanner awr. I gofrestru os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r naill sesiwn neu’r llall, cofrestrwch yma.

Taith Cerdded Lles

Dewch i ymuno â Chlwb Cerdded y Brifysgol am daith gerdded (tua 45 munud) drwy’r campws a'r coed. Mae’n gyfle gwych i ddianc o’r ddesg, arsylwi ar fyd natur, a sgwrsio ag eraill!

  • Byddwn yn cyfarfod yn Nerbynfa'r Brifysgol (Campws Penglais) am 1.00 yp
  • yr unig ystyriaethau wrth gerdded yw bod pawb yn gwisgo esgidiau addas, dillad addas i’r dirwedd a'r tywydd, a chadw'r cyflymder i gyd-fynd â'r cerddwr arafaf.
  • Opsiwn i godi sbwriel ar y daith

Fe welwch ddyddiadau digwyddiadau’r dyfodol a’r llwybrau cerdded diweddaraf ar safle y Clwb Cerdded ar Teams (dwy daith gerdded y mis ar gampws Penglais a champws Gogerddan).

Cofrestrwch yma

Celf Tir – Sesiwn Llesiant Staff

Mae celf tir yn weithgaredd heddychlon, ystyriol sy'n ein gwahodd i ymgysylltu â'r amgylchedd naturiol mewn ffordd nad yw'n echdynnu, nad yw'n ymwthiol.

Rydym yn mynd allan i archwilio gweadau a siapiau'r dirwedd, gan gasglu dail wedi cwympo, brigau a deunyddiau naturiol eraill i greu patrymau a ffurfiau bywiog, byrhoedlog. Caiff y rhain eu ffotograffio ac yna eu gadael i ddychwelyd i'r elfennau y daethant ohonynt.

Ffordd ysgafn, hygyrch a hollol rhad ac am ddim i gysylltu â'r byd naturiol, gan ein hannog i arafu a sylwi ar fwy.

Sesiwn llesiant staff am ddim

Dydd Mercher 6 Mai

1–2pm

Cwrdd yn Medrus Mawr

Gyda'r artist Brian Swaddling

Cofrestrwch yma