Gwastraff ac ailgylchu ar y campws

Mae Adriana Cahill, a raddiodd yn yr haf gyda gradd mewn Busnes a Newid Hinsawdd ac sydd bellach ar fin dechrau astudio MSc mewn Busnes a Marchnata Rhyngwladol yn ysgrifennu am sut y gallwch chi chwarae eich rhan i leihau gwastraff plastig a helpu i ailgylchu yn eich llety ac ar y campws:

Rhywbeth a all beri syndod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol am y tro cyntaf yw'r diwylliant o gynaliadwyedd sy'n gyson ledled y campws. 

Prifysgol Ddi-blastig

Yn 2018, Prifysgol Aberystwyth oedd y Brifysgol gyntaf yn y Byd i gael tystysgrif 'Prifysgol Ddi-Blastig'.  Dyfarnwyd yr ardystiad hwn gan yr elusen cadwraeth forol Surfers Against Sewage, i dynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i helpu i leihau llygredd plastig yn amgylchedd y môr.

Mae'r Brifysgol wedi addo lleihau ei defnydd o blastigau untro ar draws y campws.  Mae siop Undeb y Myfyrwyr yn gwerthu cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio wedi'u brandio gan Brifysgol Aberystwyth - mae gen i un coch, pert.

Ailgylchu yn Aberystwyth 

Mae ailgylchu o fudd i bawb, o'r unigolyn i'r gymuned fyd-eang. Ar hyn o bryd mae Cymru yn ail yn y byd am ailgylchu, a thrwy wella ein harferion ailgylchu, gallwn anelu at y safle uchaf.  

Mae effaith ailgylchu yn sylweddol, mae gweithgynhyrchu caniau o alwminiwm wedi'i ailgylchu yn defnyddio 95% yn llai o ynni na'u cynhyrchu o ddeunyddiau crai, a gall ailgylchu dim ond dau fag te gynhyrchu digon o drydan i wefru ffôn clyfar yn llawn. Wrth i fwy o bobl ddatblygu arferion ailgylchu effeithiol, rydym yn lleihau'r angen am safleoedd tirlenwi a gwaredu gwastraff costus gan arbed arian a'r amgylchedd.  

Gall ailgylchu ymddangos yn gymhleth yng Nghymru, gyda sawl llif gwastraff, gall gymryd amser i'w ddeall yn llawn. Dyna pam mae gennym ddigon o adnoddau ar gael i'ch helpu i ailgylchu'n gywir a gwneud dewisiadau gwybodus;  

Gwastraff: Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd, Prifysgol Aberystwyth 

Fel canllaw cyflym cofiwch; 

  • Mae biniau papur a chardbord yn las 
  • Mae biniau plastig a deunydd pecynnu yn goch 
  • Mae biniau bwyd yn y ceginau 
  • Mae biniau gwydr yn wyrdd 
  • Mae biniau gwastraff cyffredinol yn ddu 

Mae gwybodaeth wrth ymyl y mwyafrif o finiau i'ch helpu i ddewis ble i roi pob eitem. 

Mae camau bach yn troi’n gamau mawr, a thrwy wneud y dewisiadau cywir, gallwch fod yn rhan o wneud Aberystwyth yn lle mwy cynaliadwy. 

Os ydych yn byw yn llety'r Brifysgol, gallwch gael y bagiau ailgylchu a’r bagiau ar gyfer y bin gwastraff bwyd gan y Swyddfa Llety, ond bydd angen i chi brynu'r bagiau bin gwastraff cyffredinol (lluniwyd rota yn fy fflat i ar gyfer prynu eitemau cymunedol fel bagiau bin du a sebon cegin).

Rwy'n gobeithio bod y blog hwn wedi eich helpu i ddarganfod mwy am sut y gallwch fod ychydig yn fwy gwyrdd yn ystod eich amser yn Aber.

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.