Gwastraff

Newid trefniadau ailgylchu yn y gweithle.

O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith yn mynnu bod pob busnes, elusen a sefydliad yn y sector cyhoeddus yn didoli eu gwastraff i’w ailgylchu. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith i wella ansawdd ein dulliau casglu a didoli gwastraff ac i gynyddu’r hyn a ailgylchir. 

Pa wastraff sydd angen ei ddidoli?

Er mwyn cynorthwyo i ddidoli gwastraff, bydd biniau newydd yn cael eu gosod ledled y campws yn ogystal â diweddaru'r biniau sydd yno eisoes. Yn y rhan fwyaf o goridorau mewn adeiladau ar draws y safle bydd hyn yn creu tair ffrwd wastraff ar wahân lle bu dwy ffrwd o'r blaen. Bydd deunydd cymysg sych i’w ailgylchu yn mynd yn ddwy ffrwd wastraff ar wahân; Papur/Cerdyn a Phlastig/Metel.

Pam aigylchu?

Biffa sy'n gyfrifol am gasglu gwastraff cyffredinol a deunydd ailgylchu’r Brifysgol. Mae Biffa yn cefnogi strategaeth 'Sero Net' Llywodraeth Cymru a'i nod yw gwella cyfraddau ailgylchu ac adfer gwastraff. Mae mwy o wybodaeth am eu canllaw ar y rheoliadau ailgylchu newydd ar gael yma: Ailgylchu yn y Gweithle - Biffa.

LAS Recycling sy’n casglu gwastraff bwyd a gwydr.  Trwy wahanu'ch gwastraff bwyd, gall LAS helpu i leihau effaith amgylcheddol y brifysgol a chyrraedd targedau cynaliadwyedd yn ogystal â lleihau costau casglu. Trwy wahanu gwastraff gwydr, gall y brifysgol hybu cyfraddau ailgylchu a lleihau costau rheoli gwastraff ar yr un pryd. Mae mwy o wybodaeth am wasanaeth casglu LAS ar gael yma: lasrecycling.co.uk.

Dilynwch y canllawiau hyn i ailgylchu'n effeithiol mewn ystafelloedd dosbarth neu weithleoedd, swyddfeydd, ceginau neu leoedd bwyd:

Ie plis:

  • Cardbord
  • Papur swyddfa
  • Amlenni
  • Papurau newydd
  • Llyfrynnau a chatalogau
  • Cylchgronau

Ie plis:

  • Poteli plastig
  • Potaiu, tiwbiau a hambryddau plastig
  • Tuniau bwyd, caniau diod ac erosolau gwag
  • Ffiol glân
  • Tetra Pak a thiwbiau creision
  • Cwmpanau coffi
  • Cartonau bwyd a diod

Ie plis:

  • Papur a chardbord lliw
  • Bagiau plastig a deunydd lapio
  • Pecynnau creision
  • Papur cegin a thywellion papur
  • Deunydd lapio siocled a losin
  • Plastigau du

Ie plis:

  • Bagiau te
  • Coffi mâ;
  • Croen ffrwythau a llysiau
  • Bwyd dros ben nad oes ei eisiau

Ie plis:

  • Poteli gwydr
  • Jariau gwydr

Na dim diolch:

  • Gwastraff bwyd neu hylifau
  • Bagiau Jiffy amlenni â phadin neu swigod
  • Deunydd lapio â swigod
  • Bagiau plastig neu ddeunydd lapio
  • Cartonau bwyd neu ddiod
  • Cwmpanau coffi
  • Hancesi papur

Na dim diolch:

  • Gwastraff bwyd neu hylifau
  • Pecynnau creision
  • Deunydd lapio losin
  • Plastigau du
  • Bagiau plastig neu ddeunydd lapio
  • Cytleri metel
  • Gwydr

Na dim diolch:

  • Gwastraff bwyd neu hylifau
  • Gwydr
  • Metelau
  • Plastiau
  • Cartonau bwyd neu ddiod
  • Cwmpanau coffi
  • Cardbord neu bapur

Na dim diolch:

  • Hylifau
  • Deunydd pacio
  • Bagiau plastig neu ddeunydd lapio
  • Cwmpanau coffi
  • Papur cegin neu dywelion papur

Na dim diolch:

  • Gwydrau yfed
  • Pyrex
  • Gwydr fflat
  • Gwydr wedi torri
  • Poteli neu fariau plastig
  • Cyrc

Cwestiynau ailgylchu

Ydych chi erioed wedi mynd i daflu rhywbeth i ffwrdd ac yn sydyn wedi sylweddoli nad ydych yn siŵr pa fin y dylech ei ddefnyddio? Defnyddiwch ein Cwestiynau Cyffredin isod i'ch helpu i ddewis y bin gorau ar gyfer eich sbwriel. Os oes gennych ragor o gwestiynau, e-bostiwch y Tîm Cyfleusterau ar cyfleusterau@aber.ac.uk.

A allaf ailgylchu cwpan coffi tafladwy megis y rhai o Starbucks? Beth am gaeadau cwpanau coffi?

Gallwch – dylid rhoi’r rhain mewn biniau plastig/metel/cartonau 

Oes modd ailgylchu gwydr wedi torri?

Nac oes – peidiwch â rhoi gwydr wedi torri yn y biniau ailgylchu gwydr gan y gall fod yn beryglus i gasglwyr pan fyddant yn eu casglu. Yn lle hynny, rhowch y gwydr sydd wedi torri mewn bocs a rhoi’r bocs yn y gwastraff cyffredinol. 

A yw papur wedi'i rwygo’n mynd i mewn i’r bin ailgylchu papur?

Nac ydyw - dylid rhoi papur wedi'i rwygo yn y bin gwastraff cyffredinol nid yn y bin ailgylchu papur. 

Lle alla i roi dillad nad oes arnaf eu hangen?

Dylid rhoi dillad yn y biniau ailgylchu dillad penodol o amgylch y campws oni bai eu bod yn cynnwys olion neu wedi’u halogi gan sylweddau gwastraff, os felly dylid eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol. 

Lle ddylwn i roi bagiau plastig?

Dylid rhoi bagiau plastig yn y bin gwastraff cyffredinol nid yn y bin ailgylchu plastig. 

Beth ddylwn i ei wneud gyda phlastig du o brydau parod?

Dylid rhoi hambyrddau bwyd plastig du yn y bin gwastraff cyffredinol nid yn y bin ailgylchu plastig. 

A ellir rhoi hylifau megis iogwrt a llaeth yn y bin gwastraff bwyd?

Na – nid yw gwastraff bwyd yn cynnwys gwastraff sydd wedi’i gymysgu â hylif a fwriedir i'w fwyta gan bobl. 

Lle mae poteli farnais ewinedd yn mynd?

Dylid eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol nid yn y bin ailgylchu gwydr. 

A allaf roi deunydd lapio losin a bisgedi yn y bin ailgylchu plastig?

Na - mae angen i'r rhain fynd i’r bin gwastraff cyffredinol. 

Beth os nad ydych yn siŵr?

Edrychwch ar y posteri a geir ar y rhan fwyaf o finiau i gael cyfarwyddyd ar beth i'w wneud gyda gwastraff a deunydd y gellir ei ailgylchu, i osgoi rhoi unrhyw ddeunydd yn y biniau anghywir.