Y Broses Gofrestru yn Aber

Mae Lilia Mo, yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Bioleg Planhigion.  Yma, mae Lilia yn eich cyflwyno i'r broses gofrestru: 

Gall symud i'r brifysgol fod yn gyfnod cyffrous yn eich bywyd, ond cyn i chi allu cychwyn ar eich taith fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd yn rhaid i chi gwblhau ychydig o dasgau. Gallwch ddod o hyd i restr wirio lawn, fanwl o'r tasgau hyn ar y weddalen Cofrestru  : Croeso , Prifysgol Aberystwyth   

Cychwynnwch drwy ysgogi eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth. Dylech dderbyn cyfarwyddiadau ar gyfer hyn i'ch e-bost personol – os na allwch ddod o hyd iddynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r ffolderi sbam a sothach. 

Y dasg nesaf ar eich rhestr o bethau i’w gwneud fydd gwneud cais am eich Cerdyn Aber – rhywbeth hanfodol y bydd ei angen arnoch drwy gydol eich blynyddoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis llun da. Fe gewch chi wenu, nid llun pasbort yw hwn! 

I gael mynediad at holl wasanaethau a gwybodaeth y brifysgol, dylech lawrlwytho'r Porth Myfyrwyr, sy'n cynnwys yr holl dudalennau gwe a dolenni perthnasol i'ch helpu i ffeindio’ch ffordd yn y brifysgol. 

Mae'n hollol arferol eich bod yn teimlo ychydig yn nerfus am y rhestr o bethau y mae angen i chi eu gwneud cyn i chi gyrraedd yma. I helpu gyda hyn, gallwch ddefnyddio’r rhaglen Sefydlu Myfyrwyr Ar-lein, a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi ar lawer o bynciau sy'n ymwneud â symud i mewn ac ymgartrefu i fywyd prifysgol, yn ogystal â'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd gan y brifysgol i'w cynnig. 

Dim ond un cam arall i'w gwblhau nes eich bod wedi cofrestru fel myfyriwr yn Aberystwyth! Nesaf, mae angen i chi gofrestru ar gyfer eich cwrs ar-lein trwy gwblhau’r rhag-gofrestru, (lle rydych chi'n dewis eich modiwlau mewn rhai achosion), a’r cofrestru yn brydlon cyn y dyddiad cau. Bydd modd i chi weld negeseuon am hyn yn eich mewnflwch e-bost prifysgol, a cheir mwy o wybodaeth ar y weddalen: Cofrestru  : Cofrestrfa Academaidd , Prifysgol Aberystwyth  

Ar ôl i chi gyrraedd Prifysgol Aberystwyth, gallwch gwblhau’r broses gofrestru. Gellir cofrestru dros Wi-Fi y brifysgol (eduroam). Gallwch gael mynediad at eduroam o'ch llety prifysgol os ydych chi ar gampws Penglais, unrhyw adeilad academaidd ar y campws, neu o'r Weithfan ger Gorsaf Aberystwyth yn y dref. Mae gan y weddalen Cofrestru  : Cofrestrfa Academaidd , Prifysgol Aberystwyth fwy o wybodaeth am y broses gofrestru. Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cofrestru ac yn rhag-gofrestru ar amser. Os nad ydych chi'n gwneud hyn, ni fyddwch chi wedi’ch cofrestru fel myfyriwr gyda ni!  

A dyna ni! Llongyfarchiadau! Byddwch wedyn wedi’ch cofrestru'n swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Mae'n bwysig cofio, er ei fod yn gyfnod cyffrous, y gall symud i'r brifysgol fod ychydig yn frawychus ac weithiau'n brofiad nerfus neu lethol. Cofiwch fod pawb arall yn yr un cwch â chi, ac mae'n iawn teimlo ychydig yn ofnus. Gall y brifysgol helpu os hoffech chi gael cymorth unrhyw bryd drwy’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Ond yn bennaf oll, edrychwch ymlaen at yr holl gyfleoedd a phrofiadau newydd y bydd y blynyddoedd nesaf hyn yn eu cynnig i chi!  

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar gofrestru ar y dudalen we Cofrestru: Croeso,  Prifysgol Aberystwyth  

Oni nodir yn wahanol, safbwyntiau’r awdur sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Prifysgol Aberystwyth.