Rhestr Wirio Cyn-Cyrraedd

Mae'r rhestr wirio hon yn tynnu sylw at y tasgau pwysig y dylech eu cwblhau a'r trefniadau y dylech eu gwneud cyn cyrraedd Aberystwyth i ddechrau eich astudiaethau. 

Tasg Hanfodol i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Myfyriwr rhyngwladol: Gwneud cais am eich Fisa

Os ydych chi'n Fyfyriwr Rhyngwladol, bydd angen i chi wneud cais am Fisa Myfyriwr cyn teithio i'r DU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser ar gyfer eich cais a gwiriwch fod gennych yr holl ddogfennaeth angenrheidiol.

Mae ein tudalennau gwe Fisa a Mewnfudo yn darparu canllawiau manwl ar y broses ymgeisio, dogfennau ategol, a gwybodaeth bwysig i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Sut i wneud cais am eich Fisa
Tasg Hanfodol

Eich Llety

Os ydych chi'n bwriadu byw yn Llety’r Brifysgol, mae'n bwysig ystyried yr opsiynau llety sydd ar gael a chyflwyno'ch cais trwy'r Porth Llety cyn i chi gyrraedd.

Mae ein tudalennau gwe llety yn darparu gwybodaeth am y gwahanol breswylfeydd, y mathau o ystafelloedd, costau, a'r broses ymgeisio, gan eich helpu i ddewis yr opsiwn sy'n gweddu orau i'ch anghenion.

Sut i wneud cais am lety
Tasg Hanfodol

Trefnu eich Taliadau Cyllid Myfyrwyr a Ffioedd Dysgu

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys i gael cymorth ariannol i helpu i dalu ffioedd dysgu a chostau byw wrth astudio. Os ydych chi'n bwriadu gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr, rydym yn argymell cyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eich cyllid yn ei le pan fyddwch yn dechrau ar eich cwrs.
Os bydd eich ffioedd dysgu yn cael eu talu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, dylech ymgyfarwyddo â'u proses dalu. Os ydych chi'n talu eich ffioedd eich hun neu os yw'ch ffioedd yn cael eu hariannu gan noddwr allanol, edrychwch ar ein canllawiau ar sut i wneud taliadau i'r Brifysgol.

Proses Taliadau Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Tasg Hanfodol

Ysgogi eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth

Byddwch yn cael e-bost i’ch cyfeiriad e-bost personol gyda chyfarwyddiadau ar sut i ysgogi eich cyfrif TG Prifysgol. Cadwch lygad am yr e-bost hwn a dilynwch y camau a ddarperir, gan ei bod hi’n bwysig eich bod yn ysgogi’ch cyfrif cyn cyrraedd y Brifysgol.

 

Tasg Hanfodol

Gwneud cais am eich Cerdyn Aber

Eich Cerdyn Aber yw eich cerdyn myfyriwr swyddogol a bydd yn rhan bwysig o'ch profiad yn y Brifysgol. Gellir ei ddefnyddio i gael mynediad i'ch llety a chyfleusterau amrywiol y Brifysgol, gan gynnwys ein hystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr. Byddwch hefyd yn ei ddefnyddio i gofrestru eich presenoldeb mewn sesiynau academaidd.

Pan fyddwch wedi ysgogi eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth, gallwch wneud cais am eich Cerdyn Aber. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'ch cais o leiaf wythnos cyn cyrraedd y campws.

Sut i wneud cais am eich Cerdyn Aber
Tasg Hanfodol

Tasgau Cofrestru

Cyn i chi gyrraedd ym mis Medi, byddwn yn cysylltu â chi i roi manylion am y tasgau Cofrestru y bydd angen i chi eu cwblhau drwy eich Cofnod Myfyriwr: Rhag-gofrestru (dewisiadau modiwl) a Chofrestru Ar-lein (y cam olaf i gofrestru fel Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth). 

Gan ddibynnu ar eich cwrs, efallai na fydd angen i rai myfyrwyr gwblhau Rhag-gofrestriad, ond rhaid i bob myfyriwr gwblhau Cofrestriad Ar-lein. Byddwn yn anfon negeseuon i'ch cyfrif e-bost Myfyriwr gyda chyfarwyddiadau ar gyfer y tasgau cofrestru. Bydd canllawiau llawn, gan gynnwys amserlenni ar gyfer gwahanol gynlluniau, ar gael ar-lein. 

Mwy o wybodaeth
Tasg a Argymhellir

Cymorth Ychwanegol

Os oes gennych anabledd, gwahaniaeth dysgu, cyflwr iechyd hirdymor, neu gyflwr iechyd meddwl, rydym yn eich annog i gysylltu cyn i chi gyrraedd fel y gallwn roi cyngor, arweiniad a gwybodaeth i chi am y gefnogaeth a'r addasiadau rhesymol a allai fod ar gael i chi yn ystod eich astudiaethau. Mae cysylltu â ni'n gynnar yn helpu i sicrhau y gellir rhoi unrhyw gymorth ar waith mor ddidrafferth â phosibl. Os hoffech drafod eich anghenion neu gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at hygyrchedd@aber.ac.uk cyn i chi gyrraedd.

Ein Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant
Tasg a Argymhellir

Ymgyfarwyddo â'r Porth Myfyrwyr

Y Porth Myfyrwyr yw’r porth ar-lein canolog sy’n eich galluogi i gael mynediad at wybodaeth allweddol, gwasanaethau a systemau drwy gydol eich astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Cyn i chi gyrraedd, treuliwch rywfaint o amser yn edrych ar y Porth ac ymgyfarwyddwch â'r adnoddau sydd ar gael.

Mynediad i’r Porth Myfyrwyr
Tasg a Argymhellir

Cwblhau’r Cynefino Ar-lein i Fyfyrwyr

Mae'r Cynefino Ar-lein i Fyfyrwyr yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am beth i'w ddisgwyl ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â'r gefnogaeth, y gwasanaethau a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi drwy gydol eich astudiaethau. Gallwch weithio trwy ddeunydd Cynefino’r Brifysgol yn eich amser eich hun.

Mynediad i’r Cynefino Ar-lein i Fyfyrwyr
Tasg a Argymhellir

Cofrestru mewn Meddygfa

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu lleol cyn neu yn fuan ar ôl cyrraedd Aberystwyth. Mae'n bwysig eich bod chi'n gallu cael mynediad at ofal iechyd a chymorth pan fydd ei angen arnoch.

Mae canllawiau ar gofrestru gyda meddyg teulu a chael mynediad at wasanaethau gofal iechyd ar gael ar ein gwefan.

Cofrestru â Meddyg Teulu
Tasg a Argymhellir

Gwirio bod eich brechiadau/Imiwneiddiadau yn gyfredol

Rydym yn argymell yn gryf bod eich brechiadau ar gyfer y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) a llid yr Ymennydd ACWY yn gyfredol cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi derbyn y brechiadau hyn, neu os nad ydych wedi eu cael eto, cysylltwch â'ch meddyg teulu am gyngor.

Edrychwch ar ein Tudalennau Iechyd Myfyrwyr
Tasg Hanfodol

Dechrau pacio

Gall penderfynu beth i'w bacio ar gyfer y Brifysgol fod yn anodd, ond peidiwch â phoeni, gallwch brynu eitemau yr ydych chi wedi’u hanghofio neu nad ydynt yn hanfodol yn lleol neu ar-lein ar ôl i chi gyrraedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio unrhyw ddogfennau pwysig, megis eich pasbort, fisa, ac unrhyw feddyginiaeth neu bresgripsiynau y bydd arnoch eu hangen.

Os byddwch yn byw yn llety’r Brifysgol, gwiriwch yr hyn sydd eisoes wedi'i ddarparu yn eich ystafell neu'ch fflat cyn i chi ddechrau pacio.

 

Beth i’w bacio
Tasg a Argymhellir

Cynlluniwch eich taith

Cyn i chi deithio, cymerwch ychydig o amser i gynllunio'ch taith ac edrychwch ar y gwahanol opsiynau trafnidiaeth sydd ar gael i deithio i Aberystwyth a'r cyffiniau.

Cynlluniwch eich taith