Paratoadau olaf cyn cyrraedd Aber!

Yn ei blog olaf, mae Lilia Mo, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, yn trafod rhai paratoadau olaf ar gyfer eich amser gyda ni yma yn Aber!
Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi gweithio'n galed i gyrraedd mor bell, a nawr mae'n bryd i chi bacio a throi am Aberystwyth.
Gall penderfynu beth i’w bacio a sut i gyrraedd yma fod ychydig yn frawychus o bosibl, felly mae'r brifysgol wedi llunio'r dudalen we hon (CyrraeddAber : Croeso , Prifysgol Aberystwyth) gyda rhestr wirio ddefnyddiol o dasgau i'w cwblhau i sicrhau eich bod yn cyrraedd yn ddidrafferth.
Pan fyddwch wedi cyrraedd eich ystafell newydd, byddwn yn argymell eich bod yn edrych ar y digwyddiadau a'r sesiynau niferus a gynhelir ar y campws yn ystod yr Wythnos Groeso. Byddwch yn derbyn canllaw plygadwy i’r Wythnos Groeso pan fyddwch chi'n cyrraedd, sy'n ddefnyddiol iawn gan ei fod yn rhestru'r holl ddigwyddiadau a gynhelir. Gallai defnyddio hwn fod yn ffordd dda o ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr newydd a dod i adnabod eich gilydd yn well. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo â'r Cynllunydd Ymgartrefu : Croeso , Prifysgol Aberystwyth sy'n cael ei bersonoli i chi i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ba ddigwyddiadau a gynhelir, a phryd.
Pe bawn i'n dewis tri pheth na ddylech eu colli, y cyntaf fyddai Ffair y Glas! Bydd llawer o fusnesau a sefydliadau lleol yn ogystal â chymdeithasau a chlybiau myfyrwyr yno ac mae rhywbeth at ddant pawb. A hyd yn oed os nad oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â chymdeithas, gallwch gael llawer o bethau am ddim megis pensiliau a losin yn y stondinau.
Mae hefyd yn bwysig cwrdd â'ch adran yn yr wythnos gyntaf fel eich bod chi'n dod i adnabod eich cwrs, tiwtoriaid a myfyrwyr eraill ar eich cwrs cyn i'r gwaith ddechrau! Bydd eich adran yn trefnu cryn dipyn o weithgareddau hanfodol y bydd angen i chi eu mynychu a dylent ymddangos yn eich calendrau felly peidiwch â'u colli!
Byddwn hefyd yn argymell dod i adnabod y campws yn eich amser rhydd yn ystod yr Wythnos Groeso. Mae ffordd hwyliog iawn o wneud hynny eleni drwy gwblhau 'CroesoAber : Concro’r Campws’. Mae'n daith ddigidol o’r campws y gallwch ei wneud gydag eraill ac yn ffordd dda iawn o ddod o hyd i leoliadau pwysig a dod i adnabod y campws ychydig yn well. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho’r ap Actionbound ar gyfer iOS neu Android ac yna chwilio am 'Croeso Aber: Concro’r Campws’
Os oes angen unrhyw gymorth neu gefnogaeth arnoch yn ystod prif benwythnos cyrraedd Aber, gallwch fynd i lawr i'r Parth Croeso yn Llyfrgell Hugh Owen rhwng 9yb a 5.30yp ddydd Iau 18 Medi – ddydd Sadwrn 20 Medi 2025, lle bydd staff a myfyrwyr cyfeillgar yn bresennol sy'n awyddus i'ch helpu gydag unrhyw broblemau y byddwch chi'n eu hwynebu. Yna dylech yn bendant fynd i’r sesiynau Croeso Aber ar y dydd Sul, a gynhelir ddydd Sul, 21 Medi yng Nghanolfan y Celfyddydau. Caiff y sesiynau hyn eu harwain gan fyfyrwyr a byddant yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i chi fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y brifysgol. Byddant yn rhannu’r hyn yr hoffen nhw fod wedi’i wybod pan ddechreuon nhw yn y brifysgol, ond byddant hefyd yn caniatáu i chi ofyn y cwestiynau sy’n bwysig i chi hefyd. Mae'n bwysig eich bod yn mynychu!
Ar y cyfan, rwy'n gobeithio eich bod chi'n edrych ymlaen i ddechrau arni yn y brifysgol! Cofiwch ei bod hi’n gwbl arferol i deimlo’n bryderus neu’n nerfus am newid mor fawr, mae pawb yn yr un cwch â chi! Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar gyfleoedd i wneud ffrindiau gyda chyd-fyfyrwyr eraill, a chyn bo hir byddwch chi'n teimlo'n gwbl gartrefol yn Aber rwy'n siŵr.
Oni nodir yn wahanol, safbwyntiau’r awdur sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Prifysgol Aberystwyth.