Cyflwyno Cymorth Cyfoedion Croeso Aber

Fel myfyriwr newydd sy’n dod yma i astudio yn Aberystwyth y gobaith yw bydd yn antur newydd gyffrous yn eich taith bywyd.
Efallai bydd yna bryderon a heriau bydd yn rhaid i chi oresgyn yn ystod yr wythnosau neu’r misoedd cyntaf yn benodol. Gall yr heriau hyn amrywio o ddarganfod ble mae adeiladau, darlithoedd a digwyddiadau’n cymryd lle ar draws ein campws, i fyw’n annibynnol neu i fod i fwrdd o gartref am y tro cyntaf.
Fel myfyriwr newydd, gall addasu i arddull ddysgu fwy annibynnol fod yn anesmwyth ar y dechrau a dysgu sut i reoli eich amser yn fwy effeithiol.
Mae dechrau yn y brifysgol yn gyfnod cyffrous ond yn gallu bod yn un frawychus ar yr un pryd felly! Dyma lle gall cefnogaeth gan gymheiriaid fod o gymorth mawr i chi.
5 nod ein Cynllun Cymorth Cyfoedion Croeso Aber…
Eich croesawu i’n cymuned wych yma ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ein myfyrwyr presennol.
Rhoi cyfle i chi elwa o'r wybodaeth a phrofiadau myfyrwyr eraill sydd wedi bod trwy’r hyn rych chi’n mynd drwyddo, ac iddyn nhw rannu eu profiadau o’r flwyddyn gyntaf efo chi.
Hwyluso'r broses pontio i fywyd prifysgol fel eich bod yn dod yn gyfarwydd â'ch amgylchedd academaidd a’r amgylchedd ehangach ar y campws.
Eich cyfeirio at y gwasanaethau priodol cywir a’r amryw ohonynt sydd ar gael yn ystod eich wythnosau cyntaf efo ni yn Aberystwyth fel y gallwn ddarparu cefnogaeth barhaus pan fydd ei hangen arnoch.
Ateb unrhyw gwestiynau llosg sydd gennych ynghylch bywyd prifysgol a lleddfu unrhyw ofnau a allai fod gennych wrth i chi ddechrau ar eich taith fel myfyriwr gyda ni.
Ein Arweinwyr Cyfoed Adrannol
Mae Arweinwyr Cyfoed Adrannol yn cynnig cymorth, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad anfurfol i chi wrth ddechrau eich taith prifysgol. Bydd Arweinyddion Cyfoed yn astudio yn yr un adran (au) â chi ac yn eich helpu i ymgartrefu i fywyd prifysgol ac academaidd drwy rannu eu profadau efo chi. Wrth I chi ddarganfod eich fordd trwy’r cyfnod cyfeiriadaeth ac ymgartrefu maent wrth law i’ch croesawu a’ch cefnogi.
Sut mae Arweinydd Cyfoed yn gallu helpu chi wrth ddechrau yn y Brifysgol?
Sut mae i gyd yn gweithio?
Beth yw’r themâu Ymgartrefu Estynedig?

CaruAber – Dod i adnabod dy Brifysgol
Dyma dy le i ddarganfod, i ddysgu ac i ddatblygu.
Wrth i chi ddechrau ymgyfarwyddo â'r brifysgol rydym am gefnogi eich cyfnod pontio i'r brifysgol, ac i chi ddod i adnabod y Brifysgol yn well. Mae ein themâu CaruAber yn canolbwyntio ar saith elfen allweddol a fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch amser gyda ni yn ystod eich cyfnod pontio.